Mae prosiect ysgol Cyngor Sir Fynwy, sy’n gweithio i gynyddu’r nifer sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, yn profi ei hun i fod yn rysáit ar gyfer llwyddiant.
Mae prosiect Chwedlau Bwyd | Food Stories yn ymwneud â gwneud bwyd yn hwyl, gan gyrraedd mwy na 150 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 3 gydag ymagwedd greadigol a chwareus tuag at addysg bwyd. Nid yw’n ymwneud â bwyta yn unig; mae’n ymwneud â magu hyder a chariad at roi cynnig ar fwydydd newydd.
Gyda sesiynau coginio ymarferol wedi’u hysbrydoli gan brydau ysgol, archwilio synhwyrau ac adrodd straeon, mae’r prosiect yn newid sut mae plant yn meddwl am eu prydau yn yr ysgol.
Mae gweithgareddau hwyliog, fel profion blasu dall, yn gadael i blant ddarganfod cynhwysion newydd – fel llysiau ffres a siocled tywyll – mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, gan arwain at ymatebion cyffrous a diddordeb cynyddol mewn opsiynau iachach.
Mae cyfranogiad teuluol wedi bod yn hanfodol i’r llwyddiant. Gwahoddwyd teuluoedd i flasu’r prydau blasus a baratowyd gan y plant, a sbardunodd hynny sgyrsiau am wneud dewisiadau bwyd iach gartref. Yn ogystal, derbyniodd teuluoedd becynnau bwyd i ail-greu’r ryseitiau gyda’i gilydd, gan droi coginio yn brofiad bondio hwyliog.
Fe wnaeth y cyngor weithio mewn partneriaeth â’r storïwyr talentog Tamar Eluned Williams a Ceri John Phillips i helpu i archwilio’r straeon y tu ôl i fwyd a diwylliant. Drwy ddefnyddio storia traddodiadol yn yr iaith Gymraeg, ysbrydolwyd y disgyblion i greu eu ‘Straeon Bwyd’ eu hunain, gan wella eu geirfa yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn ffordd chwareus.
Yn nodedig, pwysleisiodd y prosiect gynaliadwyedd, gan ddefnyddio afalau lleol dros ben a llysiau a dyfir yn y gymuned i ddathlu cynnyrch Cymreig a hyrwyddo pwysigrwydd systemau bwyd cynaliadwy.
Diolch i’r dull deniadol hwn, mae mwy o ddisgyblion yn dewis prydau maethlon o’u bwydlen ysgol, gan roi hwb sylweddol i’w mwynhad a’u hyder am amser cinio.
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth Cyngor Sir Fynwy: “Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn ein hysgolion cynradd yn tynnu’r pwysau oddi ar rieni a rhoi cinio iach i bob plentyn. Mae rhai plant yn amharod i roi cynnig ar fwydydd anghyfarwydd amser cinio, felly mae prosiectau fel hyn yn eu galluogi i roi cynnig ar fwydydd mewn lleoliad hwyliog heb y pwysau i’w fwyta yn bwysig iawn.
“Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i gael pawb i goginio a bwyta gyda’i gilydd, trafod bwyd a rhoi cynnig ar bethau newydd”.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Tîm Datblygu Cymunedol / Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU / Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy