Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Trefynwy eisiau clywed eich barn am gynlluniau creu lleoedd Trefynwy.

Nod y cynllun yw creu dyfodol bywiog a chynaliadwy i ganol tref Trefynwy. Bydd yn:

• Dadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu canol y dref.

• Gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol y pentref, a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid lleol.

• Darparu cynllun gweithredu â blaenoriaeth gyda’r prosiectau a’r gweithgareddau a fydd yn gwireddu’r weledigaeth, yn mynd i’r afael â’r heriau a nodwyd ac yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd.

Bydd y Cyngor yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar 14eg Mawrth i gasglu adborth ar y cynlluniau.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar blatfform Sgwrsio am Sir Fynwy, gydag arolwg ar-lein a chyfleoedd wyneb yn wyneb i drigolion roi adborth.

Gwahoddir aelodau’r gymuned, busnesau a rhanddeiliaid i ddod a thrafod y cynigion yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb yn Neuadd y Farchnad, Heol y Prior, Trefynwy, sydd wedi eu trefnu rhwng 10am a 7pm ar ddydd Gwener, 14eg Mawrth a 10am i 3pm ar ddydd Sadwrn, 15fed Mawrth.

I ddarllen y cynigion creu lleoedd ac i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein o’r 14eg Mawrth, ewch i https://www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths, “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n bodloni anghenion y cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr. Gan weithio ochr yn ochr â’r cyngor tref, gallwn sicrhau bod y cynlluniau’n diwallu anghenion Trefynwy. Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion i’r sesiynau galw heibio a chael adborth trwy’r arolwg.”

Dywedodd y Cynghorydd Roger Hoggins, Cadeirydd Grŵp Llywio Creu Lleol Trefynwy: “Mae Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref, ynghyd â swyddogion ac ymgynghorwyr lleol, wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf i baratoi ‘Cynllun Creu Lle’ drafft ar gyfer Trefynwy. Bydd y cynllun, pan gaiff ei gwblhau a’i gymeradwyo, yn ceisio blaenoriaethu gwasanaethau ac amwynderau ynghyd â nodweddion ffisegol megis mannau agored, llwybrau yr ydym yn teithio ar droed, car, bws a chyfleusterau cyhoeddus. Mae’r syniadau a baratowyd hyd yn hyn yn cael eu cyflwyno i chi’ch hunain trwy’r ymarfer ymgynghori hwn ac rydym yn edrych am eich sylwadau a’ch adborth ar yr hyn yr ydych yn ei hoffi, ddim yn ei hoffi a’r hyn y gellir ei ychwanegu.

“Peidiwch â cholli’r cyfle hwn os gwelwch yn dda gan y bydd y Cynllun yn gosod cyfeiriad ar gyfer datblygiad y dref yn y blynyddoedd i ddod a bydd yn sail i ni geisio cyllid gan y llywodraeth i wella ein tref yn y dyfodol.”

Mae Creu Lleoedd yn ddull cynhwysfawr o gynllunio a datblygu, sy’n canolbwyntio ar greu mannau bywiog, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n sicrhau bod unrhyw newidiadau neu fuddsoddiadau a wneir yng nghanol y dref yn diwallu anghenion uniongyrchol ac yn cyfrannu at lesiant hirdymor y gymuned.

I ddysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostich MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk