Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2025/26 yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6ed Mawrth 2025.
Mae’r gyllideb hon yn ganlyniad i’r adborth helaeth a gasglwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid a gasglwyd yn ddiweddar.
Mae cyllideb y Cyngor yn ceisio amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan ddiogelu gwasanaethau sydd bwysicaf i’r trigolion.
Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Ben Callard, “Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r gwasanaethau sydd wirioneddol o bwys i’n cymuned. Rydym wedi rhoi pwyslais cryf ar osod y Cyngor ar sylfaen ariannol gynaliadwy a fydd yn caniatáu i ni barhau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol nawr ac yn y dyfodol.
“Bydd ein cyllideb ar gyfer 2025/26 yn arwain at fuddsoddiad cynyddol mewn addysg, gofal cymdeithasol a dyraniad o £2 filiwn ar gyfer gwelliannau priffyrdd.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori a gwrando ar ein trigolion a rhanddeiliaid i ddeall yr hyn sydd bwysicaf i chi. Diolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan.
“Mae eich adborth wedi’i ystyried, ac o ganlyniad, rydym wedi gwneud newidiadau i gyllideb arfaethedig 2025/26.
“Ar ôl gwrando ar ein trigolion a’n rhanddeiliaid, rydym wedi dileu’r cynnig i newid oriau agor y pedwar hyb cymunedol.”
Eleni, bydd y Cyngor yn gweithredu cynnydd o 7.8% yn y dreth gyngor, a fydd yn creu bron i £6 miliwn mewn cyllid hanfodol. Bydd y cronfeydd hyn yn cael eu cyfeirio at wella ein hysgolion, hybu mentrau gofal cymdeithasol, a gwella gwasanaethau cymdogaeth y mae pawb yn dibynnu arnynt. Bydd cymorth ar gael o hyd i drigolion cymwys i helpu i leddfu baich biliau’r dreth gyngor: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/4093-2/treth-y-cyngor-trethi-busnes-a-budd-daliadau/
Mae mwy o wybodaeth am gyllideb 2025/26 ar gael yma – https://www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/