Dathlodd Cyngor Sir Fynwy Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ddydd Gwener, 7fed Mawrth 2025, gyda digwyddiad yn Neuadd y Sir, Brynbuga.
Daeth y digwyddiad ag aelodau etholedig y Cyngor, swyddogion, Cynghorau Tref lleol a’r gymuned ehangach ynghyd i wylio, clywed a gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) yn ddigwyddiad byd-eang ar 8fed Mawrth. Ei nod yw dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu ar gyfer cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, westeion ac ailddatganodd ymrwymiad y cyngor i anrhydeddu cyflawniadau menywod yn Sir Fynwy a ledled y byd.
Daeth Cwmni Theatr ‘Her Story’ â’u profiad theatraidd calonogol a deniadol i Neuadd y Sir. Dysgodd y gynulleidfa am hanes ysbrydoledig Betsi Cadwaladr, nyrs arloesol yn Rhyfel y Crimea, mewn sgwrs ecsgliwsif yn cynnwys detholiadau cyfareddol o’r ddrama glodwiw, ‘Daughter of Bala’.
Darparodd Olga Matveiuk, artist llwyddiannus o’r Wcráin, gipolwg ysbrydoledig o’w gwaith celf. Symudodd Olga i’r DU yn 2022 ac mae’n byw yn Nhrefynwy ar hyn o bryd. Mae hi’n aelod o’r grŵp Artists in Exile. Daw ysbrydoliaeth Olga ar gyfer ei chelf o’i hardal leol, Trefynwy, ac o’i hangerdd am y môr a phlymio sgwba.
Gall preswylwyr weld gwaith celf Olga mewn arddangosfa yn y Neuadd Sirol, Trefynwy, tan 31ain Mawrth 2025. Mae Cwmni Theatr ‘Her Story’ ar daith ar hyn o bryd gyda’u drama Daughter of Bala, a gallwch ddod o hyd i fanylion y daith yma: herstorytheatrecompany.co.uk
Roedd y sawl a fynychodd hefyd yn gallu nodi’r achlysur drwy weld arddangosfeydd o Amgueddfeydd MonLife yn arddangos llwyddiannau Merched Sir Fynwy yn y 19eg – 21ain Ganrif.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o uno ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dathlu cyflawniadau menywod, atgyfnerthu ymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol, ac eirioli dros newid. Mae gennym fenywod ysbrydoledig ledled Sir Fynwy, ac fel Cyngor, mae gennym rôl i’w chwarae wrth greu byd sy’n rhydd o ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu.”



