Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu’r newyddion bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith hanfodol sydd ei angen i ailagor Pont Inglis.
Mae Pont Inglis, sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gyswllt hanfodol i gerddwyr i gymuned Trefynwy.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwyf wrth fy modd bod yr arian wedi’i ganfod i adnewyddu Pont Inglis. Dylai cymuned Trefynwy deimlo’n haeddiannol falch bod eu dyfalbarhad wrth fynnu ailagor yn gyflym wedi’i fodloni’n llawn. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesi’r bont yn ddiogel unwaith eto.”
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid.
Parhaodd y Cynghorydd Brocklesby: “Fel Cyngor, byddwn yn parhau i drafod ac ymgysylltu â’r ddwy ochr i sicrhau y gall Pont Inglis ailagor cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Mae hyn yn newyddion gwych am y cyllid sy’n cael ei ganfod. Ers cau’r bont ddechrau mis Hydref, mae’r gymuned wedi profi sut y gallant ddefnyddio eu llais i ddangos sut maent yn teimlo am seilwaith allweddol. Roedd hyn yn amlwg yr wythnos diwethaf pan wnaethom gyhoeddi ffurflen i breswylwyr i adael sylwadau ar Sgwrsio am Sir Fynwy, gan dderbyn bron i 200 o ymatebion o fewn ychydig ddyddiau.”