Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn rhybuddio trigolion ac ymwelwyr â’r Sir i fod yn ymwybodol o sgamiau parcio sydd ar waith yn yr ardal.

Mae’r cyngor wedi derbyn adroddiadau bod codau QR ffug yn cael eu glynu wrth beiriannau parcio mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ar draws y rhanbarth.

Pan gaiff ei sganio, mae’r cod QR yn mynd â’r defnyddiwr i’r hyn sy’n ymddangos yn wefan gyfreithlon. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi dysgu mai sgam tanysgrifio yw’r wefan – codi ffi ymuno a chofrestru’r defnyddiwr i danysgrifio i gynllun deiet.

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi derbyn adroddiadau am godau QR ffug eraill yn mynd â defnyddwyr i wefannau sgam eraill.

Mae’r Awdurdod yn pwysleisio nad oes yr un o’r peiriannau parcio sy’n eiddo i’r Cyngor yn Sir Fynwy yn defnyddio codau QR fel ffordd o dalu am barcio.

Rydym yn cynghori trigolion ac ymwelwyr i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am weithgarwch amheus trwy Fy Sir Fynwy neu Ddesg Gymorth Cyngor Sir Fynwy ar 01633 644644.