Ar y 18 Mawrth 2025, wnaeth Cyngor Sir Fynwy ymuno gyda sefydliadau ledled Cymru wedi llofnodi siarter sy’n golygu eu bod yn ymrwymo i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn ffordd agored, dryloyw ac atebol.
Mae’r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 a’r hyn a ddigwyddodd wedi hynny yn cael eu dysgu er mwyn atal pobl rhag cael yr un profiad yn y dyfodol.
Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i gynnig cymorth i deuluoedd sy’n dioddef profedigaeth a’r gymuned ar ôl digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.
Wnaeth digwyddiad i lansio cael i’w cynnal ym Merthyr Tudful ar ddydd Mawrth (18 Mawrth) gyda Esgob James Jones KBE a ysgrifennodd y siarter fel rhan o’i adroddiad ar y gwersi i’w dysgu o drasiedi Hillsborough. Yn y digwyddiad hefyd goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o leoliad y lansiad.
Dywedodd yr Esgob Jones: “Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o’i chyrff cyhoeddus yn llofnodi’r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o’r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.
“Mae’r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio’i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef ‘tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy’ eto.
“Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o’i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”

Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis: “Drwy lofnodi’r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu’r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill i sicrhau nad ydym byth yn anghofio am bersbectif teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig yn ystod yr argyfwng a’r drasiedi ond yn ystod yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd sy’n dilyn.
“Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her wirioneddol yw ymgorffori’r siarter yn ein hyfforddiant a’n diwylliant i sicrhau ei bod yn dod yn rhan annatod o’n hymateb i drasiedi gyhoeddus.
“Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus wedi bod yn hollbwysig i’r cam pwysig ymlaen rydym yn ei gymryd heddiw.”
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Roedd llofnodi’r Siarter hon ynghyd gyda chymaint o gyrff cyhoeddus yn ddigwyddiad cyffrous a ddwys. Mae’n gam sylweddol i Gyngor Sir Fynwy. Mae’n dangos yn uniongyrchol ein rôl fel gweision sifil a rôl ein sefydliad wrth ymateb mewn ffordd trugaredd, tryloyw, atebol ac yn y pen draw gyda dynoliaeth i unrhyw drasiedi a all ddigwydd. Mae’r gwaith o fabwysiadu’r Siarter hon a’i chwe ymrwymiad yn rhan o’r fframweithiau y dylai pawb yn Sir Fynwy ac yng Nghymru eu dilyn. Rwy’n falch bod pob Aelod Etholedig yn ein siambr, a’r swyddogion o fewn Cyngor Sir Fynwy, wedi cefnogi’r broses o fabwysiadu a llofnodi’r siarter hon.”