Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy seremoni codi baner heddiw, 10fed Mawrth, 2025, i nodi Diwrnod y Gymanwlad yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga.
Mae’r diwrnod hwn yn amlygu pwysigrwydd undod, amrywiaeth, a gwerthoedd a rennir ymhlith aelodau Cymanwlad y Cenhedloedd. Yn cael ei ddathlu’n flynyddol ar ail ddydd Llun mis Mawrth, mae Diwrnod y Gymanwlad yn goffâd ac yn gadarnhad o’n hymrwymiad ar y cyd i heddwch, democratiaeth a datblygiad.
Cododd y Cynghorydd Peter Strong, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y faner yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga i nodi’r achlysur.

Mae’n fraint i ni gael trigolion o amrywiol wledydd y Gymanwlad yn byw yn ein cymunedau ar draws Sir Fynwy. Roedd y seremoni heddiw yn gyfle i fyfyrio ar ein treftadaeth gyffredin a diolch i bawb yn ein sir am eu cyfraniadau parhaus.
Mae thema eleni, “Gyda’n Gilydd, Rydym yn Ffynnu,” yn pwysleisio “teulu” y Gymanwlad a phwysigrwydd undod wrth feithrin grymuso a chynnydd.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Heddiw, rydym yn dathlu cyfraniadau unigolion o bob rhan o’r Gymanwlad i’n cymunedau yma yn Sir Fynwy. Mae ein Sir amrywiol, sy’n rhychwantu ardaloedd gwledig a threfi, yn dod â phobl ar draws y Gymanwlad ynghyd, gan greu tapestri diwylliannol cyfoethog.”
“Gyda’n gilydd, gallwn ffynnu yma yn Sir Fynwy a ledled Cymru a’r Gymanwlad.”
