Mae MonLife wedi cyhoeddi amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous i deuluoedd a phobl ifanc yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Mae sesiynau aros a chwarae am ddim yn cynnig cyfle i blant a theuluoedd fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwarae, celf a chrefft, ac adeiladu cuddfannau. Yn ogystal, mae’r rhaglen Chwarae Egnïol ar gyfer plant 5-11 oed yn cynnwys sesiynau am ddim o dan arweiniad gweithwyr chwarae profiadol. Mae sesiynau yng Nghil-y-coed a Chas-gwent wedi’u harchebu’n llawn, ac felly rydym yn argymell eich bod yn sicrhau eich lle mewn lleoliadau eraill cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi.
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed ar gyfer ein dosbarthiadau meistr diogelwch dŵr. Wedi’u trefnu gan Nofio Cymru, mae’r dosbarthiadau hyn yn rhoi sgiliau hunan-achub hanfodol i blant a gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr.
Wedi’u cynllunio ar gyfer plant 7-11 oed a 12 – 14 oed, mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol tra’n magu hyder yn y dŵr ac o’i gwmpas heb fod angen unrhyw brofiad nofio blaenorol. Gyda dwy sesiwn ar gael, rydym yn annog pawb i gofrestru nawr.
Bydd canolfannau ieuenctid ar draws Sir Fynwy ar agor ar ddiwrnodau penodol yn ystod hanner tymor, gan ddarparu lle diogel i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, a derbyn cefnogaeth gan weithwyr ieuenctid cymwys.
Rydym yn gyffrous i groesawu pawb yn ôl i Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent dydd Sadwrn yma. Peidiwch â cholli’r arddangosfa ‘Pysgod Mawr’ newydd yng Nghas-gwent ac ymunwch â ni ar gyfer crefftau thema Dydd Gŵyl Dewi yn ein hamgueddfeydd sydd i’w cynnal drwy gydol yr hanner tymor.
Paratowch ar gyfer hanner tymor mis Chwefror llawn hwyl gyda Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd MonLife! Mae amrywiaeth o weithgareddau cyffrous o straeon a chrefftau i Weithdai Lego wedi’u trefnu i chi eu mwynhau.
Peidiwch â cholli’r digwyddiadau gwych yn Theatr Borough yn y Fenni yr hanner tymor hwn. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae perfformiadau gan Blazin’ Fiddles, Llyr Williams gyda Rhapsodies & Waltzes, Budapest Cafe Orchestra, a chynhyrchiad arbennig o “The Picture of Dorian Gray.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl weithgareddau ac i archebu lle, ewch i https://www.monlife.co.uk/events/
Tags: MonLife, Monmouthshire, news