Skip to Main Content

Ar 4ydd Chwefror 2025, cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Fynwy ddatblygiad o 96 o gartrefi fforddiadwy newydd.

Rhoddwyd caniatâd i ddatblygu 46 o gartrefi yn Mabey Bridge yn Ardal Brunel yng Nghas-gwent. Bydd y cartrefi newydd mewn tri bloc o fflatiau isel, gan gynnwys 32 o fflatiau un ystafell wely a 14 o fflatiau dwy ystafell wely. Bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu gan Barratt Homes ac yna’n cael eu trosglwyddo i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, Pobl.

Rhoddwyd caniatâd hefyd i ddatblygu 50 o gartrefi yn Heol Tudur, Wyesham yn Nhrefynwy. Bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu gan Edenstone a’u trosglwyddo i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, Cymdeithas Tai Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio: “Mae darparu Tai Fforddiadwy wrth galon cenhadaeth y Cyngor Sir i ddarparu Sir decach, wyrddach a mwy llwyddiannus.

“Rwy’n diolch i’n partneriaid Edenstone a Barratts, Pobl a MHA. Drwy’r partneriaethau effeithiol hyn, gallwn i gyd gyflawni’r nod o wasanaethu ein cymunedau. Bydd y cartrefi hyn o’r safon uchaf o ran dyluniad. Gan fodloni neu ragori ar y safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, byddant yn ynni effeithlon iawn ac wedi’u hadeiladu gyda’r holl hygyrchedd sydd ei angen ar gyfer cartrefi gydol oes. Byddant yn gartrefi deniadol wedi’u hadeiladu yn y lleoliadau mwyaf deniadol.”

“Ers i’r Cyngor gael ei ethol yn 2022, lai na thair blynedd yn ôl, rydym wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer 208 o dai fforddiadwy.

“Pan fydd ein Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn creu’r cyfle i ddarparu tir a fframwaith polisi cynllunio ar gyfer o leiaf 1000 o gartrefi fforddiadwy di-garbon net i’w darparu erbyn 2033”.

“Mae pob cartref fforddiadwy yn trawsnewid bywyd unigolyn neu deulu. Bydd ein rhaglen o ddarparu tai fforddiadwy yn trawsnewid y Sir; gan greu poblogaeth iau, mwy cynhyrchiol a all gynnal ein heconomi leol, trefi a phentrefi, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus.”

Mabey Bridge yn Ardal Brunel yng Nghas-gwent