Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Magwyr gyda Gwndy, yn gyffrous i gyhoeddi datblygiad cynllun creu lleoedd ar gyfer Magwyr gyda Gwndy.

Nod y fenter hon yw creu dyfodol bywiog a chynaliadwy i ganol y pentref.

Bydd y cynllun creu lleoedd yn:

  • Dadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu canol y dref
  • Gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol y pentref, a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid lleol
  • Darparu cynllun gweithredu â blaenoriaeth gyda’r prosiectau a’r gweithgareddau a fydd yn gwireddu’r weledigaeth, gan fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd a gwneud y gorau o’r cyfleoedd

Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol, bydd y Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y prosiect a chynlluniau cysyniad gan ddechrau ar 14eg Chwefror.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Sgwrsio am Sir Fynwy, gydag arolwg ar-lein a chyfleoedd wyneb yn wyneb i drigolion roi adborth.

Gwahoddir aelodau’r gymuned, busnesau a rhanddeiliaid i weld a thrafod y cynigion yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb ym Magwyr, a drefnwyd rhwng 1pm a 7pm ar ddydd Gwener, 14eg Chwefror, yn Eglwys y Bedyddwyr Magwyr a rhwng 9am a 2pm ar ddydd Sadwrn, 15fed Chwefror, yn Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy.

I ddarllen y cynlluniau creu lleoedd a’r cynigion a chymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, ewch i www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/.

Mae gwybodaeth ychwanegol am y cynllun, gan gynnwys manylion am y digwyddiadau ymgynghori, cynlluniau y gellir eu lawrlwytho, ac arolwg ar-lein ar gyfer casglu safbwyntiau a sylwadau, ar gael ar ein gwefan. Bydd map rhyngweithiol hefyd ar gael at ddefnydd y gymuned.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths, “Drwy weithio gyda Chyngor Tref Magwyr gyda Gwndy, rydym yn datblygu cynlluniau i ddatblygu’r economi leol. Bydd yr ymgynghoriad, y digwyddiadau wyneb yn wyneb, a’r arolwg ar-lein yn galluogi’r gymuned i roi adborth ar y cynigion, ac edrychaf ymlaen at glywed eu barn.”

Dywedodd y Cynghorydd Carole Hopkins, Maer, Cyngor Tref Magwyr gyda Gwndy: “Mae Cyngor Tref Magwyr a Gwndy yn awyddus iawn i gefnogi bywiogrwydd Sgwâr ein pentref nodedig gyda’i safle unigryw ar Wastadeddau Gwent. Rydym yn falch iawn o fod ar y cam o rannu rhai cynigion drafft gyda thrigolion, a gobeithiwn y bydd yn helpu mwy o bobl o bob rhan o Fagwyr gyda Gwndy a thu hwnt, i fwynhau Sgwâr Magwyr a phopeth sydd gan ein cymuned a’n rhanddeiliaid i’w gynnig. Rwyf wrth fy modd fod rhanddeiliaid a busnesau lleol yn ymgysylltu â’r broses ac rwy’n gobeithio y byddwn yn ennyn diddordeb ac adborth sylweddol gan drigolion lleol i lywio ein camau nesaf.”

Mae Creu Lleoedd yn ddull cynhwysfawr o gynllunio a datblygu, sy’n canolbwyntio ar greu mannau bywiog, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n sicrhau bod unrhyw newidiadau neu fuddsoddiadau a wneir yng nghanol y dref yn diwallu anghenion uniongyrchol ac yn cyfrannu at lesiant hirdymor y gymuned.

I gael gwybod mwy am y cynlluniau creu lleoedd a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostiwch MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk.