Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (CMGG) yn cydweithio i sicrhau y gall TogetherWORKS barhau i gefnogi’r ystod eang o sefydliadau cymunedol sy’n weithgar yng Nghil-y-coed i gefnogi trigolion.

Yn sgil newidiadau yn y grantiau sydd ar gael o Gyllid Ffyniant a Rennir y DU, nid oedd yn bosibl parhau â’r un lefel o gymorth ariannol tuag at TogetherWORKS ar gyfer 2025/26. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y bydd TogetherWORKS yn derbyn £46,000 i helpu i drosglwyddo i fodel busnes mwy hunangynhaliol ar gyfer y dyfodol.

Mae CSF a CMGG bellach yn falch o gadarnhau y bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu hefyd.

Mae CSF wedi cadarnhau y gall TogetherWORKS barhau i ddefnyddio ei adeilad presennol ar Ffordd Woodstock, Cil-y-coed, am y flwyddyn ariannol sydd i ddod o dan y trefniadau presennol.

Bydd CMGG yn ariannu aelod o staff llawn amser drwy’r Ariannu Ffyniant a Rennir o £46,000 i gefnogi mentrau cymunedol parhaus. Yn ogystal, bydd CMGG yn ariannu dwy swydd arall trwy gyfraniad gan elusen amgylcheddol leol, Ynni De-ddwyrain Cymru.

Mae’r Cyngor a CMGG yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned a grwpiau lleol yn defnyddio’r cyfleuster TogetherWORKS ac maent yn ymroddedig i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn parhau i fod yn hygyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd CSF ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, “Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â CMGG i ganiatáu i TogetherWORKS barhau i weithredu yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ein nod ar y cyd yw gwasanaethu’r holl sefydliadau lleol hynny sy’n asgwrn cefn i’r gymuned.”

Dywedodd Stephen Tiley, Prif Swyddog Gweithredol CMGG, “Mae’r gefnogaeth i TogetherWORKS gan y gymuned, grwpiau a defnyddwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda CSF a’n cymwynaswr elusennol i sicrhau y gall TogetherWORKS barhau i gynnig cymorth y mae mawr ei angen i gymuned ehangach Cil-y-coed. Edrychwn ymlaen at weithio gyda TogetherWORKS a phartneriaid i sicrhau ei gynaliadwyedd i’r dyfodol.”