Mae’r ysbryd o roi yn gryf yn Sir Fynwy y Nadolig hwn, gan fod cannoedd o anrhegion a rhoddion wedi’u derbyn ar gyfer ymgyrch Dymuniadau Nadolig Cyngor Sir Fynwy.
Yn sgil yr ymateb ysgubol, derbyniwyd rhoddion ac anrhegion hael gan gynghorwyr Sir Fynwy, ysgolion, trigolion, hybiau cymunedol a chwmnïau lleol, gan arwain at fwy na 450 o blant a phobl ifanc mwyaf bregus ac anghenus y Sir yn derbyn anrhegion Nadolig.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r ymgyrch wedi tyfu’n sylweddol, gyda’r tîm Gofal Cymdeithasol Plant yn gweithio’n ddiflino i ddosbarthu’r teganau a’r anrhegion yn yr wythnosau cyn gwyliau’r Ŵyl er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw blentyn neu berson ifanc mewn angen ei anghofio.
Yn ogystal â’r ymgyrch anrhegion eleni, roedd y tîm wedi trefnu basgedi Nadolig, gan weithio gydag Ysgolion Cynradd Overmonnow a’r Archesgob Rowan Williams a busnesau sy’n casglu bwyd neu’n darparu cymorth ariannol.
Eleni, cyflwynodd y tîm, gyda chymorth gwirfoddolwyr Bridges, fwy na 75 o fasgedi Nadolig i deuluoedd.
Mae cyfranwyr lleol mawr i’n hymgyrchoedd yn cynnwys Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Grŵp Vistry, Grŵp Edenstone, Morgan Sindall, Academi Crefft Ymladd Maddison Alex, Unsain, neuadd gymunedol Little Mill, Eglwys y Santes Fair, Ysgol Brenin Harri’r VIII, Waitrose a chwmni’r Morgans o Frynbuga.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Mae ein hymgyrch Dymuniadau Nadolig yn enghraifft o haelioni ysbryd sy’n fyw ar hyd a lled Sir Fynwy. Mae’n amlygu awydd gwirioneddol pobl a busnesau i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed adeg y Nadolig.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd mor barod, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”
Derbyniodd y tîm Gwaith Cymdeithasol adborth hyfryd gan deuluoedd, gyda llawer ohonynt yn methu â phrynu anrhegion i’w plant.
Mae ymgyrch dymuniadau’r Nadolig a basgedi’r Nadolig bellach yn ymgyrch fawr, ac mae’r tîm Gofal Cymdeithasol Plant yn gwerthfawrogi bod cymaint o blant, teuluoedd a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn medru elwa. Nadolig Llawen i chi gyd.