Cafodd Diwrnod Cofio’r Holocost ei nodi yn Sir Fynwy gyda seremonïau teimladwy yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ac yn Hyb Cil-y-coed.
Eleni yw 80 mlynedd rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Am 2pm ddydd Llun 27 Ionawr nododd Cyngor Sir Fynwy y pen-blwydd hwn a Diwrnod Cofio’r Holocost drwy gynnal seremoni fer yn Neuadd y Sir, Brynbuga.
Roedd y seremoni hefyd yn gyfle i roi amser i gofio pawb a gollodd eu bywyd yn ystod yr hil-laddiadau mwy diweddar yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Roedd seremoni Cyngor Sir Fynwy yn cynnwys darlleniadau a cherddi gan y Dirprwy Arweinydd Paul Griffiths, y Cadeirydd Su McConnell, Pencampwr Lluoedd Arfog y cyngor ac aelodau’r cabinet.
Hefyd yn bresennol ar y dydd roedd Arglwydd Sir Gwent, Meiri Cil-y-coed, y Fenni a Threfynwy, yn ogystal â chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol o Gas-gwent, Trefynwy a’r Fenni ynghyd ag aelodau etholedig o’r cyngor.
Dywedodd y Cyng Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost mae gennym i gyd gyfle i weithredu dros well dyfodol; dyfodol gwell lle nad yw pobl yn dioddef rhagfarn nac erledigaeth oherwydd eu ffydd, ethnigrwydd neu nodwedd arall.”
Yn ogystal â’r seremoni yn Neuadd y Sir, cynhaliwyd digwyddiad coffa ar wahân yn Hyb Cil-y-coed ddydd Iau 30 Ionawr.
Dangoswyd ffilmiau a rhoddwyd darlleniadau gan oroeswyr yr hil-laddiad yn Bosnia – gyda 2025 yn nodi 30 mlynedd – gyda darlleniadau a chyflwyniadau pellach i nodi 80 mlynedd rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Roedd Catherine Fookes, Aelod Seneddol Sir Fynwy hefyd yn bresennol yn y digwyddiad yng Nghil-y-coed.
Mae mwy o wybodaeth ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost yn hmd.org.uk/
Tags: caldicot, Monmouthshire, news