Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) wedi cymryd cam sylweddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a diogelu bioamrywiaeth trwy ddod yn Gyngor Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo cyntaf y byd.

Mae’r fenter hon yn cydnabod effaith arferion caffael y Cyngor, fel prydau ysgol, ar ddatgoedwigo trofannol, sy’n cyfrannu at newid hinsawdd ac yn bygwth bywydau Pobl Gynhenid.

Drwy lofnodi’r Siarter Dim Datgoedwigo, mae Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle cynhyrchion sy’n peri’r risg o ddatgoedwigo, gan gynnwys hyrwyddo bwyd lleol, prynu nwyddau masnach deg a defnyddio ei lwyfan i eirioli dros leihau ein hôl troed datgoedwigo byd-eang, a hynny ymhlith partneriaid, cymunedau a chyflenwyr.

Mae’r fenter hon yn cyd-fynd ag amcanion CSF o fynd i’r afael â newid hinsawdd ac anghydraddoldeb, gan fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r ddau fater.

Yn ystod cyfarfod diweddaraf y Cyngor llawn ar 12fed o Ragfyr, cyflwynodd cyn-ddisgyblion Ysgolion Cynradd Osbaston, Cymin View, Rhaglan a Gwndy, sydd bellach wedi symud ymlaen i Haberdashers’ Monmouth School ac Ysgol Gyfun Trefynwy, i’r aelodau etholedig ar y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda’i gilydd gyda’r elusen Gymreig, Maint Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn falch o fod y Cyngor cyntaf yn y byd i gymryd y cam dewr hwn. Mae ein pobl ifanc wedi bod yn allweddol wrth yrru’r newid hwn, gan amlygu effaith byd-eang ein gweithredoedd lleol. Gall pawb wneud gwahaniaeth trwy feddwl yn fyd-eang tra’n gweithredu’n lleol.”

“Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion a fynychodd gyfarfod y Cyngor am eu hymroddiad i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Datgoedwigo.”

“Mae Cyngor Sir Fynwy yn arwain y ffordd wrth ddangos sut y gall Cymru fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gan sicrhau nad yw’r hyn yr ydym yn ei brynu a’i ddefnyddio yma yng Nghymru yn ysgogi datgoedwigo a bod pobl yn cael eu cam-drin miloedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae gweld pobl ifanc yn arwain yr ymgyrch yn dangos y gallwn sicrhau newid gyda’n gilydd, un cam ar y tro. Mae ein dyfodol yn dibynnu arno,” meddai Nichola James, Swyddog Ymgyrch Cymunedau Dim Datgoedwigo Maint Cymru.

Mae ymrwymiad CSF i ddod yn Hyrwyddwr Dim Datgoedwigo yn golygu rhannu ei gynnydd ac annog eraill i wneud yr un peth.