Skip to Main Content

Mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, goleuadau stryd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer mwy.

Codir y dreth gyngor ar yr aelwyd ac mae’n seiliedig ar werth yr eiddo. Mae swm y dreth gyngor a dalwch yn dibynnu ar y band eiddo y mae eich tŷ ynddo. Y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n pennu’r bandiau hyn.

Mae’r swm yr ydych yn ei dalu hefyd yn dibynnu ar a oes gennych hawl i unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.

Gweler nodiadau esboniadol y Dreth Gyngor am ragor o wybodaeth.

I gael gwybod faint o dreth gyngor y byddwch yn ei dalu, bydd angen i chi wybod ym mha gyngor cymuned a’r band treth gyngor y mae eich eiddo ynddo. Yna, gallwch wirio hyn yn erbyn ein tabl tâl fesul band.

Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, cyfanswm y tâl ar gyfer 2025/26 yw £2,277.19, o gymharu â £2,110.67 yn 2024/25. Mae’r tâl hwn wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:

2024/252025/26% cynnydd
Cyngor Sir Fynwy£1,686.70£1,818.267.80  
Comisiynydd Heddlu a Throseddu£349.52£377.317.95  
Cyngor Cymuned  £74.45£81.629.63
CYFANSWM£2,110.67£2,277.197.89

O 1 Ebrill 2024, bydd eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y Sir yn destun Premiwm y Dreth Gyngor. Mae hwn yn swm ychwanegol o dreth gyngor i’w dalu ar ben y bil treth gyngor safonol.

Ar gyfer eiddo gwag hirdymor bydd premiwm o 100% yn berthnasol i eiddo sy’n wag am fwy na blwyddyn a bydd premiwm o 200% yn berthnasol i eiddo sy’n wag am fwy na dwy flynedd a phremiwm o 300% ar eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu fwy.

Ar gyfer ail gartrefi, bydd premiwm o 100% yn cael ei godi, er y bydd busnesau sy’n symud o’r rhestr fasnachol (ardrethi busnes) i’r rhestr ddomestig (y dreth gyngor) yn cael eu heithrio o’r premiwm am 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y dreth gyngor safonol yn dal i fod yn daladwy. Mae rhagor o wybodaeth am bremiymau’r dreth gyngor ar gael yma.

  1. Mae cyllideb Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cynnydd o 7.8% yn y dreth gyngor.

Y gyllideb refeniw gros ar gyfer yr Awdurdod (yn eithrio symiau a gasglwyd ar ran Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a’r Cynghorau Cymuned) yw £214,489,698.  Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd cyfanswm lefel y cronfeydd refeniw defnyddiadwy wrth gefn yn £13,865,312 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’r gyllideb a roddir ar waith yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiad ychwanegol:

  • £7.4m yn fwy wedi ei fuddsoddi mewn Addysg, yn cynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a buddsoddiad mewn canolfannau adnoddau arbenigol, gan helpu plant i aros yn eu hysgolion lleol;
  • £7.3m i Ofal Cymdeithasol ar gyfer Plant ac Oedolion yn cynnwys buddsoddiadau yn ein gwasanaeth gofalwyr Maeth i gadw a recriwtio gofalwyr gwerthfawr ac i gydnabod eu sgiliau hanfodol, amynedd, amser a’r adnoddau hanfodol sydd eu hangen i gefnogi rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yn ein Sir
  • Bydd casglu gwastraff yn parhau fel y mae. Bydd y canolfannau hamdden, canolfannau ailgylchu, llyfrgelloedd a hybiau cymunedol i gyd yn parhau ar agor gan ddal i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol;
  •  a £2.3m pellach i gynnal a chadw ffyrdd, palmentydd a seilwaith priffyrdd arall.

I gael manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario, ewch yma.

2. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynyddu’r swm sydd ei angen arno gan drethdalwyr y Cyngor yn 2025/26 gan 7.95%. I gael manylion sut y caiff yr arian hwn ei wario, ewch yma

3. Cynghorau Cymuned – mae’r tâl Band D cyfartalog ar gyfer 2025/26 wedi cynyddu gan 9.63%. Bydd taliadau yn amrywio fesul Cyngor Cymuned a bydd y swm a godir yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

I weld y gwariant blynyddol disgwyliedig a’r tâl Band D ar gyfer y cyngor cymuned yr ydych yn byw ynddo edrychwch ar ein tabl tâl fesul tabl. I gael manylion sut caiff yr arian hwn eu gwario mae angen i chi gysylltu â’ch Cyngor Cymuned. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld yma – Manylion Cyswllt y Cynghorau Cymuned.

Mae’r dreth gyngor yn talu am wasanaethau lleol fel ysgolion, gwasanaethau gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, cynnal a chadw ffyrdd a strwythurau, goleuadau stryd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer mwy.

Mae’r rhan fwyaf o’r dreth gyngor yn mynd i’r awdurdod lleol, Cyngor Sir Fynwy, i’w wario ar wasanaethau lleol ond mae rhannau hefyd yn mynd i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Cymuned.

Mae’r Cyngor hefyd yn derbyn incwm o ardrethi busnes, grantiau’r llywodraeth, ffioedd a thaliadau eraill, sydd i gyd yn cyfrannu at gost darparu gwasanaethau’r Cyngor.

Mae’r dreth gyngor hefyd yn cyfrannu at gostau a gwasanaethau eraill gan gynnwys rheoli adeiladau’r Cyngor, costau sy’n gysylltiedig â pholisi, strategaeth a chyfathrebu, costau rhedeg y gwasanaeth refeniw a budd-daliadau a chostau benthyca.

Caiff gwariant y cyngor ei rannu yn ddau gategori a elwir yn refeniw a cyfalaf.

Mae cynllun cyllideb y cyngor yn gweld cyfanswm cyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 o £236.88 miliwn. Mae hyn yn cynnwys symiau a gaiff eu casglu ar ran yr Heddlu (£18.3 miliwn) a Chynghorau Tref a Chymuned (£3.96 miliwn).

Caiff y gyllideb refeniw ei hariannu drwy:

  • Grant cymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru o  £100.6 miliwn
  • Ailddosbarthu ardrethi annomestig o  £34.6 miliwn
  • Treth Gyngor (Cyngor Sir Fynwy) o £88.3 maliwn
  • Treth Gyngor (Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent) o £18.3 miliwn
  • Treth Gyngor (Cynghorau Cymuned) o £3.96 miliwn

Mae cyllideb y Cyngor hefyd yn gweld buddsoddiad cyfalaf o £29.2 miliwn ar gyfer 2025/26.

Bydd y gwariant cyfalaf hwn yn mynd ati i gefnogi:

  • buddsoddiad yn ein seilwaith yn cynnwys strwythurau priffyrdd, cerbytffyrdd, llwybrau troed, hawliau tramwy cyhoeddus, a stad eiddo
  • cwblhau yr ysgol 3-19 newydd yn y Fenni
  • buddsoddiad mewn cynlluniau cynhwysiant yn cynnwys grantiau cyfleusterau i’r anabl a chynlluniau mynediad i bawb;
  • buddsoddiad yn ein stad TGCh a rhwydwaith i wella cydnerthedd ein darpariaeth gwasanaeth.

Cynllunio ariannol tymor canol

Strategaeth ariannol tymor canol y Cyngor yw sylfaen ein cynllunio ariannol ac mae’n amlinellu’r heriau a’r risgiau ariannol a wynebwn yn y tymor canol.

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn ei gwneud yn ofynnol i ddiweddaru cynllun ariannol tymor canol y Cyngor yn rheolaidd a bydd y fersiwn nesaf yn canolbwyntio ar yr heriau cynyddol wrth gadw a chynnal lefelau presennol o ddarpariaeth gwasanaeth mewn amgylchedd o gynnydd yn y galw a’r costau, ynghyd â’r risg a’r ansicrwydd am setliadau cyllid wedi eu hamcanestyn dros y tymor canol.

Bydd yn amlinellu’r risgiau, effeithiau a goblygiadau wedi eu diweddaru o fynd i’r afael â diffyg yn y gyllideb tymor canol, gyda ffocws ar y strategaethau sydd ar gael i’r Cyngor i alluogi model ariannol cynaliadwy yn y dyfodol sy’n mynd ati i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon ar gyfer cymunedau Sir Fynwy. Bydd hyn yn unol â’r blaenoriaethau a amlinellir yn nrafft gynllun Cymunedol a Chorfforaethol drafft y Cyngor a’r cynlluniau galluogi amrywiol sy’n bwydo iddo.