Daeth ysgol gynradd yn Sir Fynwy y gyntaf yn y sir i ennill Gwobr Efydd Ysgolion Cyfeillgar i’r Lluoedd Arfog.
Yn ogystal â bod yr ysgol gyntaf yn Sir Fynwy i ennill y wobr hon, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Eglwys yng Nghymru Rhaglan hefyd yw’r 25fed yng Nghymru.

Mae’r gydnabyddiaeth hon, a ddyfernir gan Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg (SSCE) Cymru yn rhaglen gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

Nod Statws Ysgolion Cyfeillgar i’r Lluoedd Arfog yw:
- Sefydlu arfer da ar gyfer cefnogi plant y lluoedd arfog
- Creu amgylchedd cadarnhaol i blant y lluoedd arfog i rannu eu profiadau
- Annog ysgolion i ymgysylltu mwy gyda’u cymuned lluoedd arfog
Wrth ennill y wobr, dangosodd yr ysgol fod cefnogaeth ar gael i blant y lluoedd arfog a’u teuluoedd.

Mae’n dangos fod yr ysgol yn amgylchedd cadarnhaol ar gyfer plant y lluoedd arfog i rannu eu straeon.
Dywedodd Martin Groucutt, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae aelodau teuluoedd sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn bobl ddewr, ond mae plant y lluoedd arfog hefyd yn ddewr iawn.
“Pan fo aelodau teulu yn gorfod mynd i ffwrdd am gyfnod maith, neu bod yr holl deulu yn gorfod symud ysgolion a phlant yn gorfod gadael eu ffrindiau a gwneud ffrindi”
Tags: Monmouthshire, news, School