Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cydweithio â Streetwave i ddarparu gwiriwr darpariaeth dyfeisiau symudol fel bod trigolion yn medru gwirio eu signal symudol.
Dechreuodd y Cyngor weithio gyda Streetwave i fesur ansawdd signalau yn y Sir ym mis Medi 2023.
Gwnaeth Streetwave osod ei offer casglu data blaengar yng ngherbydau casglu gwastraff y Cyngor. Roedd hyn yn caniatáu arolygon darpariaeth symudol wythnosol ar draws y rhanbarth.
Comisiynwyd yr arolwg gan Ranbarth Arloesi Diwifr Uwch Partneriaeth Afon Hafren (RSPAWIR).
Dyfarnwyd £3.75m o gyllid i’r RSPAWIR gan y Llywodraeth i gefnogi twf arloesedd a thechnoleg diwifr yn rhai o’i sectorau economaidd allweddol.
Rydym yn gyffrous i gynnig teclyn rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio sy’n eich galluogi i ddeall pa rwydweithiau symudol sy’n darparu’r cyflymderau cyflymaf y tu allan i’ch cartref, busnes neu leoliadau eraill o ddiddordeb.
Mae ein gwiriwr darpariaeth yn cynnwys data a gasglwyd y tu allan i’r rhan fwyaf o gyfeiriadau o fewn y Cyngor ar gyfer EE, Vodafone, 3, ac O2.
Mae’r fenter hon yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan drigolion fynediad at wybodaeth ddibynadwy am eu hopsiynau cysylltedd o fewn y sir.
I gael gwybod mwy am gyflymder cysylltedd yn eich ardal, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/mobile-coverage-checker/
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae hon yn fenter ragorol gan yr RSPAWIR a bydd yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i bobl ar draws y rhanbarth.
“Bydd yr offeryn hwn yn helpu i hysbysu busnesau, awdurdodau lleol ac unigolion pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf a’r cysylltiadau cryfaf.”
Tags: Monmouthshire, news