Skip to Main Content

Derbyniodd Cyngor Sir Fynwy gadarnhad heddiw gan Lywodraeth Cymru ei fod yn cynnig cynnydd dros dro o 2.8% mewn cyllid craidd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26 sydd i ddod.

Croesewir y cynnydd arfaethedig yn y cyllid ac mae’n gam cyntaf sylweddol i gydnabod y pwysau parhaus ar ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol i’n trigolion. Cyn cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU, rhagamcanwyd na fyddai Cyngor Sir Fynwy yn derbyn unrhyw arian ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mae’r cynnydd arfaethedig hwn yn cydnabod y galw cynyddol am ein gwasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae’r cynnydd arfaethedig yn sylweddol is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 4.3%. Bydd hyn yn arwain at rai dewisiadau anodd y bydd angen eu gwneud yn ystod proses y gyllideb.

Bydd y Cabinet yn trafod cynigion cyllideb ddrafft y Cyngor yn ystod cyfarfod ar 22ain Ionawr 222025, ac wedi hynny bydd y cynigion yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.

Gall trigolion, busnesau a sefydliadau partner rannu eu barn ar y cynigion yn ystod y broses ymgynghori. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar wefan y cyngor yn y dyfodol agos: www.monmouthshire.gov.uk/

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, “Mae’r cyhoeddiad cyllid ychwanegol hwn yn arwydd o symudiad cadarnhaol i ddechrau atgyweirio ein gwasanaethau Llywodraeth Leol gwerthfawr ar ôl nifer o flynyddoedd anodd.

“Rwy’n pwyso am gynnydd mwy. Rwy’n credu y dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru dderbyn o leiaf 3.5% o gynnydd, a byddaf yn dadlau’r achos dros Sir Fynwy gyda Llywodraeth Cymru.”

“Ein blaenoriaeth fydd ein trigolion o hyd wrth i ni weithio i greu cyllideb gadarn a theg sy’n cefnogi holl drigolion Sir Fynwy. Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cyflwyno ein cyllideb ddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; bydd eich barn yn ein helpu i lunio cyllideb derfynol sy’n yn blaenoriaethu’r gwasanaethau y mae trigolion Sir Fynwy yn eu gwerthfawrogi fwyaf.”

Dywedodd y Cyng. Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau, “Rydym yn cydnabod bod yr hinsawdd ariannol gyffredinol yr ydym i gyd yn gweithredu ynddi yn parhau i fod yn heriol.”

“Rwy’n cydnabod bod lefel ein cyllid cynyddol yn is na lefel awdurdodau lleol eraill. Mae hyn oherwydd bod y cyngor, dros sawl degawd, wedi methu â darparu cartrefi fforddiadwy yn y Sir. Bydd hyn yn newid o dan y Weinyddiaeth bresennol. Pan fydd cymaint o gartrefi newydd yn y Sir wedi bod yn y bandiau uchaf o ran y Dreth Gyngor, rydym yn cael llai na’r grant cyfartalog gan Lywodraeth Cymru.”