Skip to Main Content

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy a’i bartneriaid ymarfer cynllunio at argyfwng ddydd Mercher, 6ed Tachwedd,  yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed.

Roedd Cyngor Sir Fynwy, mewn cydweithrediad â Heddlu Gwent ac ystod o asiantaethau gwirfoddol, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, Ambiwlans Sant Ioan a’r RSPCA oll, wedi cymryd rhan yn yr ymarfer, a oedd â’r nod o ddilysu a phrofi trefniadau ar gyfer sefydlu a rheoli’r ganolfan groeso ar gyfer goroeswyr.

Roedd mwy nag 80 o wirfoddolwyr wedi eu recriwtio i chwarae rhan y ‘goroeswyr’ a oedd wedi derbyn gofal yn y ganolfan. Rhoddwyd rôl i bob gwirfoddolwr i herio’r gweithdrefnau presennol a rhoi’r profiad angenrheidiol i’r rhai sy’n gweithio mewn canolfan o’r fath.

Mae tîm Cynllunio Argyfwng y Cyngor yn sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau priodol ar waith i reoli digwyddiadau mawr neu argyfyngau yn Sir Fynwy, gyda’r nod o liniaru eu heffaith ar y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Adnoddau: “Mae cynllunio a phrofi ein gweithdrefnau presennol yn ein galluogi ni a’n partneriaid i fod yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad mawr. Fel Cyngor, ein nod ni, ynghyd â’n partneriaid, yw cynnal yr ymarferion  hyn bob ychydig o flynyddoedd.”

“Rydyn ni’n gobeithio na fydd yn rhaid i ni byth roi’r cynlluniau hyn ar waith, ond trwy eu hymarfer, gallwn sicrhau ein bod yn barod i weithredu.”

Ychwanegodd, “Diolch yn fawr iawn i’r holl wirfoddolwyr. Heb eich amser a’ch ymdrechion, ni allem brofi’r ymateb aml-asiantaeth. Drwy gyfrannu eich amser, rydych wedi gwneud yr ymarfer hwn yn bosibl.”

Darparodd yr ymarfer byw gyfle hyfforddi amhrisiadwy, gan ddod â chydweithwyr o Dimau Hwb Cymunedol Cyngor Sir Fynwy – Hamdden, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd – ynghyd â Heddlu Gwent a’r asiantaethau gwirfoddol ynghyd gan fod rhaid i bob un ohonynt weithio gyda’i gilydd i ymateb i ddigwyddiadau o’r fath.

Yn ffodus, mae digwyddiadau go iawn yn brin iawn a dim ond trwy efelychu’r sefyllfaoedd hyn y gall staff o’r holl asiantaethau hyn ddysgu a  gwybod beth i’w wneud a gwerthfawrogi’r problemau y gallent eu hwynebu.

Mae tîm Cynllunio Argyfwng y Cyngor yn sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau priodol ar waith i reoli digwyddiadau mawr neu argyfyngau yn Sir Fynwy, gyda’r nod o liniaru eu heffaith ar y gymuned.

I ddysgu mwy am Gynllunio Argyfwng, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwasanaethau/cynllunio-ar-gyfer-argyfyngau/