Yn dilyn Storm Bert dros y penwythnos, mae swyddogion Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n ddiwyd ar draws y Sir i fynd i’r afael â sgil-effeithiau’r llifogydd.
Ers heddiw, 25ain Tachwedd, mae newid sylweddol yn y tywydd wedi gwella’r sefyllfa ledled yr ardal, gan ganiatáu ailagor llawer o ffyrdd a gwasanaethau.
Achosodd y storm bod ffyrdd yn cael eu cau ledled y Sir. Er bod y rhan fwyaf o’r ffyrdd hyn wedi ailagor, rydym yn cynghori unrhyw un sy’n teithio i fod yn ofalus, oherwydd gallai gweddillion o’r llifogydd fod yn bresennol ar y ffyrdd o hyd. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gau ffyrdd, ewch iwww.monmouthshire.gov.uk/storm-bert.
Mae tîm gweithrediadau’r Cyngor wedi gweithio’n barhaus drwy gydol y penwythnos a heddiw i glirio’r ffyrdd. Fodd bynnag, bydd y broses hon yn cymryd sawl diwrnod i’w chwblhau oherwydd y nifer uchel o ffyrdd yr effeithir arnynt.
Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch holl drigolion y Sir. Rydym yn annog pawb sy’n teithio i gadw at y ffyrdd sydd ar gau er eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill.
Teefnwyd canolfannau gofal dros y penwythnos i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r trigolion hynny oedd wedi’u dadleoli o’u cartrefi, yn ogystal â phreswylwyr bregus sy’n derbyn gofal cymdeithasol, prydau cymunedol a gwasanaethau eraill.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae’r penwythnos hwn wedi gweld rhai achosion o’r glaw a’r llifogydd gwaethaf ar draws Sir Fynwy. Unwaith eto, mae ein trigolion wedi dangos eu cryfder drwy gefnogi ei gilydd. Diolch i bawb a wrandawodd ar y cyngor a chynorthwyo eu cymdogion.”
“Wrth i’r amodau wella heddiw, mae swyddogion y Cyngor yn gweithio ledled y Sir i gael gwared ar weddillion a mynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan y llifogydd.”
“Hoffem ddiolch i’r swyddogion hynny a weithiodd yn ddiflino drwy gydol y penwythnos ac i’r gwasanaethau brys ac asiantaethau gwirfoddol am eu hymateb ar y cyd. Mae eich ymdrechion wedi sicrhau bod Sir Fynwy yn parhau i fod yn hygyrch fel y gall pawb deithio’n ddiogel.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd, gwasanaethau ac ysgolion, ewch i:www.monmouthshire.gov.uk/storm-bert/
Tags: Monmouthshire, news, storm bert