Croesawodd Canolfan Ieuenctid y Zone, Cil-y-coed, y gymuned leol ar gyfer diwrnod agored ar ddydd Gwener, 25ain Hydref, i ddathlu cwblhau’r gwaith adnewyddu helaeth i wella’r cyfleuster ar gyfer pobl ifanc 11 oed a hŷn yng Nghil-y-coed.
Ailagorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y Cynghorydd Su McConnel, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Maxine Mitchell, Maer Cyngor Tref Cil-y-coed, a rhai pobl ifanc o’r ganolfan.
Mae rhai o’r gwelliannau adeiladu a wnaed yn cynnwys gwaith rendro a chladin allanol, to newydd wedi’i inswleiddio, a ffenestri a drysau newydd, sydd oll yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad.
Mae Zone, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Grŵp Ieuenctid Cil-y-coed a Gwasanaeth Ieuenctid MonLife, yn darparu man diogel lle mae Gweithwyr Ieuenctid cymwys a chofrestredig CGA yn hwyluso gweithgareddau, cyfleoedd a chefnogaeth amrywiol i ieuenctid yr ardal. Mae Grŵp Ieuenctid Cil-y-coed yn elusen gofrestredig sy’n ceisio cefnogi datblygiad darpariaeth ieuenctid, datblygu safle ar gyfer cyfleuster ieuenctid parhaol, ac eirioli dros bobl ifanc yn ardal Glan Hafren.
Yn ystod hanner tymor mis Hydref eleni, uchafbwynt y gweithgareddau oedd ar gael oedd taith i Barc i Thorpe ar gyfer 140 o bobl ifanc o ardal Cil-y-coed. I ddarganfod mwy am ddigwyddiadau yn y Zone, ewch i: https://www.facebook.com/MonLifeConnect.
Mae adnewyddu Zone yn cefnogi Cynllun Adfywio Canol Tref Cil-y-coed, a gynhyrchwyd yn 2018 ac a oedd yn cynnwys fframwaith prosiect adfywio ar gyfer Cil-y-coed. Darparwyd cyllid gan Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy fel rhan o Raglen Grantiau Gwella Eiddo Canol Trefi.
Mae eiddo cyfagos i’r ganolfan ieuenctid eisoes wedi elwa ar gyllid gwella eiddo Llywodraeth Cymru.
Mae ansawdd y gwaith a wneir ar yr adeilad yn gosod meincnod ar gyfer adeiladau eraill o fewn canol y dref.
Dyfarnwyd arian y Loteri Genedlaethol i’r ganolfan hefyd, a alluogodd adnewyddu’r gegin a darparu cyllid pellach ar gyfer gweithgareddau coginio yn y dyfodol. Daeth cyllid arall tuag at y prosiect o Gronfa’r Degwm, ConveyLaw a Grantiau Cyfalaf CMGG/SPF ac Eglwysig.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Cyngor Sir Fynwy, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae’n wych gweld canlyniad yr holl waith caled sydd wedi’i wneud fel rhan o adfywio’r Ardal ers mis Mawrth.”
Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg, y Cynghorydd Martyn Groucutt: “Rwy’n gwybod bod llawer o bobl wedi cyffroi am y diwrnod hwn, ac rwy’n siŵr y byddwn yn gweld manteision y gwaith yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
“Mae canolfannau fel y Zone yn hanfodol i sut rydym yn cefnogi pobl ifanc ar draws Sir Fynwy.”
I ddarganfod mwy am Wasanaeth Ieuenctid MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/connect/youth-service/ neu e-bostiwchyouth@monmouthshire.gov.uk