Yn dilyn y tân yn Stryd Frogmore, Y Fenni ar ddydd Sul, 10fed Tachwedd, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cau ffyrdd yn yr ardal i gefnogi’r ymateb aml-asiantaeth sydd yn parhau.
Yn sgil ymchwiliad parhaus gan Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, bydd yr heolydd hyn ar gau hyd nes y clywir yn wahanol oherwydd pryderon diogelwch i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd, mae’r heolydd canlynol ar gau:
Stryd Frogmore
• Dim mynediad i gerbydau i Stryd Frogmore.
• Mynediad i Gerddwyr hyd at gyffordd Stryd Baker a Stryd Frogmore yn unig.
• Mae mynediad i gerddwyr i ben deheuol Stryd Frogmore ar hyd yr A40 yn unig.
Stryd Baker
• Dim mynediad i gerbydau heibio cyffordd Stryd y Tywysog.
• Mynediad awdurdodedig i gerddwyr yn unig.
Y Stryd Fawr
• Mynediad i gerbydau cludo rhwng 4pm – 10am, wedi’i gyfyngu i uchafswm pwysau o 7.5 tunnell.
• Dim mynediad i gerbydau, allanfa trwy Stryd y Llew.
• Mynediad llawn i gerddwyr.
Bydd newidiadau i’r heolydd sydd ar gau yn cael eu diweddaru wrth i ymchwiliadau ddod i ben, a byddwn yn diweddaru’r cyhoedd trwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae’r digwyddiad nos Sul wediperi cryn sioc. Mae ein meddyliau gyda’r holl drigolion a busnesau yr effeithir arnynt.”
“Fel Cyngor, rydym yma i gefnogi unrhyw un sydd angen gwybodaeth neu gymorth yn dilyn y tân. Mae’r heolydd sydd cau ar hyn o bryd er diogelwch y cyhoedd. Er ein bod yn deall y gallai hyn effeithio ar fusnesau eraill, diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd.”
“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r gwasanaethau brys a’n partneriaid i gefnogi pawb sydd wedi eu heffeithio.”
“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent am ymateb mor gyflym ac am eu cefnogaeth barhaus. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Dref Y Fenni ac i’r gymuned leol. Unwaith eto, maent wedi dangos y gorau o Sir Fynwy; help a chefnogaeth ymarferol anhunanol i bobl mewn angen.”