Skip to Main Content

Heddiw, cyhoeddodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, ei bod yn dod â’r Cynghorydd Sara Burch yn ôl i’r Cabinet i gynorthwyo’r Cyngor i weithredu ei Gynllun Cymunedol a Chorfforaethol.

Bydd y Cynghorydd Burch yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau gan gynnwys mynd i’r afael â digartrefedd, hyrwyddo teithio llesol a chynhwysol, mynediad i gefn gwlad a hawliau tramwy, twristiaeth, diwylliant a chefnogi cynhyrchu bwyd lleol.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Brocklesby, y Cynghorydd Burch yn nôl, gan ddweud: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu’r Cynghorydd Burch yn ôl, gan y bydd cael Cynghorydd ychwanegol, profiadol a galluog yn ein Cabinet yn ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau.”

Roedd y Cynghorydd Burch wedi ymddiswyddo o’i rôl yn y Cabinet yn flaenorol yn dilyn cyhoeddi sylw annoeth ar X ond dilëwyd y sylw ac ymddiheurodd am y sylw. Ychwanegodd y Cynghorydd Brocklesby: “Nid wyf yn ystyried hyn yn rhwystr iddi ddychwelyd i rôl yn y Cabinet, ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â hi eto.”

Wrth dderbyn y rôl newydd, dywedodd y Cynghorydd Sara Burch: “Rwy’n gyffrous i ddechrau fy rôl fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’m cyd-aelodau yn y Cabinet, Cynghorwyr, a swyddogion i ddarparu gwasanaethau i ein trigolion.”

I ddysgu mwy am y Cabinet a rôl Aelodau’r Cabinet, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/cwrdd-ar-cabinet/

Cabinet Member for Rural Affairs, Housing & Tourism, Cllr Sara Burch
Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, Cyng. Sara Burch