Skip to Main Content

Mae Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru ynghylch cau Pont Inglis yn ddiweddar.

Mae’r llythyr yn mynegi rhwystredigaeth gynyddol ymhlith trigolion ac yn galw am gwblhau’r gwaith angenrheidiol ar fryd i ailagor y bont.

Mae Pont Inglis yn hawl tramwy hanfodol i lawer o drigolion, gan eu cysylltu â thref Trefynwy. Mae’r Cynghorydd Brocklesby wedi mynegi siom y Cyngor gyda’r diffyg cynnydd o ran adfer mynediad i gerddwyr a beicwyr, gan annog yr awdurdodau perthnasol i ddarparu gwybodaeth am unrhyw gynlluniau sydd i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Brocklesby: “Fel Cyngor, rydym yn cydymdeimlo â thrigolion sydd wedi gweld y llwybr poblogaidd hwn yn y dref ar gau, heb unrhyw ddiweddariadau o ran ar ei ailagor. Rwy’n sicrhau ein trigolion bod y Cyngor yn gwneud popeth posibl i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyniad i sicrhau bod y bont yn cael ei hailagor cyn gynted â phosib ar gyfer y gymuned.”

“Mae’r llwybr cerdded ac olwynio poblogaidd a hanfodol hwn yn cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan drigolion sy’n mynd i’r gwaith, yr ysgol, neu fusnesau lleol. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y gymuned leol.”

Bydd Cyngor Sir Fynwy hefyd yn cefnogi Cyngor Tref Trefynwy i gynorthwyo trigolion yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ei sylwadau, hoffai arweinydd y Cyngor atgoffa trigolion bod rhwystrau wedi eu gosod er eu diogelwch, gan annog pawb i beidio â dringo drostynt na thorri trwyddynt.

Ychwanegodd y Cynghorydd Brocklesby, “Er bod y sefyllfa bresennol ymhell o fod yn ddelfrydol, a bod csu’r bont yn arwain at lwybr cerdded neu olwynion hirach i drigolion, rwy’n annog pawb i gadw’n ddiogel. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld unigolion yn torri drwy’r rhwystrau i gerdded ar y bont. Mae’r bont ar gau er eich diogelwch chi, ac erfyniwn ar bobl i beidio â pheryglu eu hunain nac eraill.”

Copi o’r Llythyr