Skip to Main Content

Mae tîm Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd ac ymwelydd i Sir Fynwy yn gallu mwynhau bwyd diogel.

Drwy gydol y flwyddyn, mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio gyda busnesau, elusennau a gwirfoddolwyr i sicrhau bod yr holl bobl sy’n trin bwyd wedi’u hyfforddi’n ddigonol i’w galluogi i gynhyrchu bwyd diogel.

Mae’r hyfforddwyr yn addysgu’r maes llafur Lefel 2 trwy wahanol arddulliau dysgu, gan gynnwys trafodaethau dosbarth, cyflwyniadau, a gweithgareddau grŵp, felly mae’n ddiwrnod ymarferol iawn gyda llawer o gyfranogwyr yn cymryd rhan. Mae’r hyfforddiant ar gael i unrhyw un sy’n ymwneud â thrin bwyd, boed yn broffesiynol neu’n wirfoddolwr.

Os ydych am ddysgu mwy am y cyrsiau hyn a sut y gallant fod o fudd i chi, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Gallwch anfon e-bost atom i environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01873 735 420.

Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles gydag aelodau o gwrs diweddar

Ar ôl mynychu cwrs diweddar, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Roedd y cwrs hanfodol hwn yn hynod o addysgiadol ac yn ddiddorol. Mae’r wybodaeth a’r profiad sydd gan ein hyfforddwyr Iechyd yr Amgylchedd wir yn helpu pawb i ddeall y cyfrifoldebau hanfodol yr ydym i gyd yn eu rhannu wrth gynnal hylendid bwyd.”

Gellir darparu ein cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth mewn gwahanol leoliadau ar draws Sir Fynwy, gan eich galluogi i ddod o hyd i gwrs sy’n cyd-fynd â’ch argaeledd a’ch anghenion.