Ar ddydd Mawrth, 15fed Hydref 2024, daeth y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth am y tro cyntaf i drafod tâl uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Fynwy.
Bydd y pwyllgor newydd yn ystyried tystiolaeth ac yn penderfynu a oes angen i’r Cyngor addasu’r graddfeydd cyflog presennol ar gyfer uwch swyddogion. Dyma fyddai’r addasiad cyntaf ers 2009/10.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae rolau uwch arweinwyr wedi esblygu, ac mae’r Cyngor bellach yn wynebu heriau newydd. Bydd rôl yr uwch arweinwyr yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r heriau parhaus y bydd yr awdurdod lleol yn dod ar eu traws yn y blynyddoedd i ddod. Bydd adolygu’r raddfa gyflog yn sicrhau bod Cyngor Sir Fynwy yn gallu denu a chadw’r ymgeiswyr gorau posibl ar gyfer y rolau yma.
Dywedodd Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth, y Cynghorydd Ben Callard: “Mae Sir Fynwy yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo ac mae gennym ni gysylltiadau gwych â chanolfannau poblogaeth mawr a rhwydweithiau busnes mawr fel Caerdydd, Swydd Henffordd a Bryste, ac mae’r Cabinet wedi ymrwymo i sicrhau bod proses gwerthuso swyddi yn cael ei hailystyried ar gyfer pob gradd er mwyn sicrhau strwythur cyflog teg a chyfartal yng Nghyngor Sir Fynwy.”
Maes o law, bydd argymhellion yn cael eu gwneud a’u hystyried mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn yn y dyfodol.