Skip to Main Content

Daeth newidiadau i’r amserlen casglu ailgylchu a gwastraff ar draws Sir Fynwy i rym y bore yma.

O 21/10/2024 ymlaen, bydd diwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff ym mhob ardal o Sir Fynwy yn newid.

Mae angen y newidiadau mewn diwrnodau casglu i alluogi’r cyngor i ddarparu bagiau ailgylchu amldro i bob preswylydd a gwella effeithiolrwydd yn gyffredinol.

Rydym yn adolygu ein gwasanaeth drwy’r amser i sicrhau ein bod mor effeithiol ag sydd modd. Gall faint o’r gloch y caiff eich gwastraff ei gasglu newid hefyd, felly gofynnir i chi sicrhau eich bod yn rhoi eich gwastraff mas erbyn 7am.

Mae mwy na hanner cartrefi Sir Fynwy eisoes yn defnyddio bagiau ailgylchu amldro. Os nad ydych wedi derbyn eich bagiau eisoes, gallwch ddisgwyl iddynt gael eu dosbarthu i chi rhwng nawr a’r Nadolig.

Os oes gennych fagiau ailgylchu amldro yn barod, gofynnir i chi barhau i’w defnyddio os gwelwch yn dda. Diolch i bob preswylydd am ailgylchu cymaint ag sydd modd.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel i’n holl breswylwyr ac mae angen y newidiadau pellach yma i gyflawni hyn Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster a achosir.

Bydd ein wardeiniaid ailgylchu yn monitro’r rowndiau newydd yn ystod yr wythnosau ar ôl dosbarthu’r bagiau amldro a gallant helpu preswylwyr gydag unrhyw broblemau a all fod ganddynt.

Dywedodd y Cyng Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ymestyn bagiau ailgylchu amldro yn gam pwysig ar ein taith i ostwng y defnydd o gynnyrch plastig un-tro a darparu gwasanaethau sydd mor gyfeillgar i’r amgylchedd ag sydd modd.

“Mae timau’r Cyngor yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein holl breswylwyr yn derbyn eu bagiau amldro newydd cyn y Nadolig.

“Gofynnir i chi ddilyn y canllawiau a roddir yn eich lythyr i ddod yn gyfarwydd gyda’ch dyddiadau casglu newydd.” Bydd eich dyddiadau casglu ar gael i’w gweld ar-lein drwy naill ai lawrlwytho ap Fy Sir Fynwy neu fynd i  maps.monmouthshire.gov.uk/

Tags: ,