Yn dilyn isetholiad ar ddydd Iau, 24ain Hydref, 2024, mae Martin Newell (Ceidwadwyr Lleol) wedi’i ethol fel y Cynghorydd Sir newydd ar gyfer Ward y Dref yn Sir Fynwy.
Cynhaliwyd yr etholiad ar gyfer Ward y Dref yn Nhrefynwy ar ôl i’r Cynghorydd Catherine Fookes ymddiswyddo ar ôl cael ei hethol yn AS dros Sir Fynwy.
Roedd canlyniadau’r etholiad fel a ganlyn:
- Jackie Atkin – Llafur Cymru: 184 pleidlais
- Jez Becker – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: 19 pleidlais
- Martin Newell – Ceidwadwyr Lleol: 350 o bleidleisiau
- Paul Rollings – Y Blaid Werdd: 41 pleidlais
Y ganran a bleidleisiodd oedd 33.7%.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynghorydd Martin Newell, ewch i: https://democracy.monmouthshire.gov.uk/mgUserInfo.aspx?UID=34