Skip to Main Content

Yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ddydd Sul, Medi 22, 2024, roedd myfyrwyr o bedair ysgol gynradd Sir Fynwy yn arddangos eu doniau coginio, gan greu argraff ar feirniaid a chynulleidfaoedd gyda’u chorma ffacbys arloesol.

Roedd y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Kate Humble ac a feirniadwyd gan enillydd Masterchef James Nathan, yn tynnu sylw at ymrwymiad Cyngor Sir Fynwy i weini prydau bwyd amser cinio cynaliadwy a blasus i ysgolion ledled ein sir.

Bu disgyblion o Osbaston, Kymin View, Raglan, a Gwndy yn cydweithio â Maint Cymru mewn partneriaeth â’r Cyngor, Sefydliad y Co-op, a’r ‘Clwb Cookalong ‘ i greu rysáit o ffynhonnell sy’n rhydd o ddigoedwigo. Roedd eu hymdrechion yn dangos potensial creadigol llysiau, gan bwysleisio pwysigrwydd dewisiadau bwyd cynaliadwy, ond yn bwysicaf oll y gellid mwynhau prydau o bob math.

Yn dilyn y digwyddiad, cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy ei benderfyniad i gyflwyno’r cyri ffacbys i fwydlenni ysgolion ar draws y sir. Mae’r fenter hon yn gam sylweddol tuag at nod y cyngor o ddod yn bencampwyr ffynonellau sy’n rhydd o ddigoedwigo ac yn gosod safon newydd ar gyfer arferion prydau ysgol cynaliadwy yn y rhanbarth. Bydd y corma ffacbys ar fwydlenni ysgolion ochr yn ochr ag opsiynau traddodiadol gan ddefnyddio cig Prydeinig.

Mynegodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, ei brwdfrydedd: “Mae rhai o’r trigolion ieuengaf yn ein cymuned bellach yn dangos i ni sut y gallwn ni, fel sir, newid tuag at fwyd sy’n dod o ffynonellau mwy cynaliadwy. Mae’r ymrwymiad i gynnwys hyn ar fwydlenni ein hysgolion yn dangos ein hymroddiad i ddod yn hyrwyddwyr ffynnonellau sy’n rhydd o ddigoedwigo.”

“Mae cyflwyno’r cyri ffacbys blasus iawn hwn i fwydlenni ysgolion yn adlewyrchu ymroddiad Sir Fynwy i hyrwyddo bwyd cynaliadwy, lleol i gefnogi lles ein dysgwyr.” I ddarganfod mwy am wasanaeth Prydau Ysgol Sir Fynwy ewch i’r dudalen we https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ysgolion-prydau/

Tags: , ,