Skip to Main Content

Hanner tymor mis Hydref eleni, mae Tîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau AM DDIM i ddarparu cymorth a chyngor ar gostau byw.

Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i bob preswylydd a’u nod yw helpu preswylwyr i gysylltu â sefydliadau lleol a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.

Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy:
  • Cyngor ar Bopeth
  • Banciau bwyd lleol
  • Asiantaeth Ynni Hafren Gwy
  • Cymru Gynnes
  • Dŵr Cymru
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Undeb Credyd Gateway

Bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys gweithgareddau i’r teulu am ddim, gan gynnwys cynaliadwyedd bwyd, sesiynau chwarae a chrefft, addurno pwmpen a llawer mwy.

Dyddiadau a Lleoliadau’r Digwyddiadau:

  • Dydd Mawrth, 29 Hydref: Bridges Centre, Trefynwy – 11am-4pm
  • Dydd Mercher, 30 Hydref: Neuadd Ymarfer Cas-gwent – 11am-4pm
  • Dydd Iau, 31 Hydref 2024: Marchnad y Fenni – 11am-4pm

Bydd digwyddiad hefyd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 12 Tachwedd, yn Llyfrgell Cil-y-coed rhwng 12pm a 4pm.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Gall y digwyddiadau hyn roi gwybodaeth i’n trigolion a fydd yn eu helpu mewn cyfnod anodd. Os ydych yn chwilio am wybodaeth neu gefnogaeth, galwch heibio’r hanner tymor hwn i siarad â’r timau a’r sefydliadau gwych a all eich helpu.”

Bydd ein tîm Datblygu Cymunedol wrth law i gynnig croeso cynnes a chyfeillgar.

Am fwy o wybodaeth am gymorth ynghylch costau byw, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/materion-arian/events-cost-of-living/