Skip to Main Content

Ymgasglodd trigolion a phwysigion ar brynhawn dydd Gwener heulog hyfryd ddechrau mis Medi i ddathlu cwblhau prosiect pwysig ar gyfer Trefynwy.

Mae’r prosiect, a ariannwyd gan Gynllun Seilwaith Twristiaeth Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a chyda chymorth ychwanegol gan Gyngor Tref Trefynwy a Chyngor Sir Fynwy, wedi bod yn ymdrech gydweithredol a gydlynwyd drwy’r tîm Tiroedd a Glanhau.

Mae’r prosiect wedi rhoi bywyd newydd i’r ardal bicnic ger Pont Mynwy, gyda llawer o agweddau yn dod at ei gilydd i drawsnewid yr ardal. Mae rheilen bren bellach yn gwahanu’r man gwyrdd oddi wrth y maes parcio, tra bod borderi rhosmari a lafant wedi’u plannu gan wirfoddolwyr o Bencampwyr Cymunedol Rotari Trefynwy. Mae coed criafolen hefyd wedi’u gosod ar hyd yr ymyl i roi cysgod ac aeron, gyda’r gwanwyn wedi’i osod i ddod â chymysgedd o fylbiau blodeuol a blodau gwyllt a blannwyd gan blant Ysgol Overmonnow.

Mae byrddau picnic a meinciau newydd ar lan yr afon, wedi’u gwneud o blastig caled wedi’i ailgylchu, wedi’u darparu, gan bwysleisio ymrwymiad y prosiect i ailgylchu.

Yn ogystal, mae cerflun, “Gwarcheidwad yr Afonydd,” a grëwyd gan yr artist mosaig lleol Stephanie Roberts, yn edrych dros y man gwyrdd. Chwaraeodd preswylwyr, myfyrwyr a phobl ifanc ran hanfodol wrth ddylunio’r cerflun a wnaed o gerameg, teils a gwyd wedi’u hailgylchu a gwrthrychau a ddarganfuwyd.

Roedd cwblhau’r gwaith tacluso hefyd yn golygu gosod rheiliau du newydd rhwng y maes parcio a’r ffordd, gan adael argraff ffafriol i ymwelwyr sy’n dod i mewn i’r dref.

Arweiniodd y prosiect hefyd at finiau sbwriel newydd ar gyfer y dref, gan annog ailgylchu a chynaliadwyedd. Roedd gwirfoddolwyr o Grŵp Sbwriel Trefynwy wedi bod yn galw er tro am fwy o gyfleoedd i ailgylchu sbwriel ar gyfer pobl sydd allan ar y stryd, ac mae’r prosiect wedi darparu technoleg sy’n synhwyro pan fydd y biniau’n agosáu at fod yn llawn, gan atal biniau sbwriel yn gorlifo.

Talodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths, deyrnged i’r gwaith tîm a arweiniodd at y prosiect llwyddiannus hwn: “Mae’r prosiect hwn wedi arddangos yr hyn y gall cydweithio ei wneud i ardal. Rwy’n sicr, dros y blynyddoedd i ddod, y bydd hon yn ardal boblogaidd a fydd yn cael ei defnyddio’n aml gan drigolion ac ymwelwyr sy’n mynd i’r stryd fawr. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddod â hyn yn fyw. Hoffwn ddiolch yn arbennig i fyfyrwyr Ysgol Overmonnow gan y bydd eu gwaith yn plannu blodau yn dod yn amlwg dros y blynyddoedd nesaf gydag amrywiaeth o liwiau i’w gweld yma.”

Tags: , ,