Skip to Main Content

Bu dau o gynghorwyr  Sir Fynwy, Peter a Jackie Strong, yn “torri’r rhuban” heddiw (17/10) yn agoriad swyddogol Swyddfa Bost Cil-y-coed a siop gyfleustra newydd sbon yn Uned 4, Tŷ Holman, 36-38 Heol Casnewydd, Cil-y-coed, NP26 4BQ.

Trwy gyfrwng y siop, cafodd gwasanaethau Swyddfa’r Post eu hadfer yng Nghil-y-coed gan y Postfeistr newydd, Bobby Nakum a’i wraig, Bhavna. Mae hyn hefyd wedi ailgyflwyno gwasanaethau bancio i ganol tref Cil-y-coed, lle nad oedd unrhyw fanciau ar ôl.

Cllr Peter Strong, Vice Chair of Monmouthshire County Council officially opens the new Post Office in Caldicot

Perfformiwyd yr agoriad swyddogol gan y Cynghorydd Peter Strong, Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, a’i wraig y Cynghorydd Jackie Strong, sy’n cynrychioli ward Caldicot Cross ac sy’n Hyrwyddwr Pobl Hŷn i’r y cyngor.

Yn bresennol hefyd yn y dathliad, roedd Catherine Fookes AS, Cyng. Paul Griffiths Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Sir Fynwy, Maer Cil-y-coed Cyng. Maxine Mitchell, ar y cyd gyda chynghorwyr o Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Cil-y-coed.

Yn anffodus, caeodd Swyddfa Bost Cil-y-coed pan gaewyd siop McColl’s, lle’r oedd y gangen yn wreiddiol, ym mis Ionawr 2023. Mae Swyddfa’r Post a Chyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio’n agos i ailagor Swyddfa Bost newydd yng nghanol y dref yng Nghil-y-coed.

Trwy gyfrwng grant gan Gyngor Sir Fynwy, bu modd adnewyddu’r hen siop wag, gyda chymorth rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi creu Swyddfa Bost fodern, olau a siop gyfleustra sydd ag amrywiaeth dda o nwyddau.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Sir Fynwy:  “Bydd y Swyddfa Bost newydd yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i drigolion Cil-y-coed. Rwy’n ddiolchgar i Swyddfa’r Post am weithio gyda Chyngor Sir Fynwy i gael hyd i adeilad a denu busnes newydd i ddarparu’r gwasanaeth Swyddfa’r Post hwn yng nghanol tref Cil-y-coed. Roeddem yn gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael hyd i arian i adnewyddu’r siop a oedd yn wag. Credaf y bydd pobl Cil-y-coed yn cefnogi’r gwasanaeth newydd hwn ac yn sicrhau bod ganddo ddyfodol hirdymor.”

Mae landlord y siop, Cymdeithas Dai Sir Fynwy, wedi ildio dau fis o rent i helpu Bobby i sefydlu ei fusnes newydd.

Dywedodd Simon Davies, Syrfëwr Datblygu Tai Sir Fynwy: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ymuno â Chyngor Sir Fynwy a Bobby a Bhavna Nakum i helpu i ddod â Swyddfa Bost y mae mawr ei hangen yn ôl i Gil-y-coed.

“Daeth y cyfan ynghyd pan ddaeth uned fasnachol Cymdeithas Dai Sir Fynwy ar gael wrth i’r Cyngor chwilio am leoliad perffaith ar gyfer Swyddfa Bost newydd yng Nghil-y-coed.  Mae’r Swyddfa Bost yn rhan o fuddsoddiad ehangach parhaus ac adfywiad yn Nhŷ Holman a Chanol Tref Cil-y-coed.

“Mae Cymdeithas Dai Sir Fynwy yn estyn croeso  Cymreig cynnes i bostfeistri newydd Cil-y-coed ac rwy’n siŵr y bydd Bobby a Bhavna yn rhoi eu “stamp” ar yr hyn a fydd yn  hanfodol i gyfoethogi bywydau llawer o drigolion, yng nghanol cymuned Cil-y-coed.”

Dywedodd Catherine Fookes AS: “Rydym mor falch o gael Swyddfa Bost ar agor eto yng Nghil-y-coed. Wrth siarad â phreswylwyr, maent yn dweud wrthyf eu bod yn gwerthfawrogi’n fawr, nid yn unig y gwasanaethau, ond yr agwedd gymdeithasol hefyd. Diolch yn fawr iawn i Bobby a Bhavna.”

Oddi ar 2017, mae Bobby a Bhavna yn berchen ar siop gyfleustra Lifestyle Express yn Tutshill, Cas-gwent, sydd ychydig dros y ffin yn Lloegr. Y fenter yng Nghil-y-coed yw ei siop gyntaf a’i Swyddfa Bost gyntaf yng Nghymru.  Maen nhw’n ffodus fod ganddyn nhw sawl ffrind sydd eisoes yn rhedeg Swyddfeydd Post ac sy’n barod i’w helpu. Byddan nhw hefyd yn cyflogi pobl leol.

Dywedodd y postfeistr, Bobby Nakum: “Rydym yn gyffrous iawn yn agor ein busnes newydd yng Nghil-y-coed a chymryd ein Swyddfa Bost gyntaf. Gwerthfawrogwn yn fawr yr holl gefnogaeth a gawsom gan Gyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Dai Sir Fynwy a Swyddfa’r Post.

“Gwyddom fod y gymuned wedi bod yn aros yn eiddgar am agoriad Swyddfa Bost Cil-y-coed ar gyfer yr holl wasanaethau hanfodol y gallwn eu darparu nawr. Mae’n wych bod Swyddfa Bost yn agor cyn cyfnod prysur y Nadolig, ond gyda’r ystod eang o wasanaethau rydym yn eu darparu mae gwir angen y gangen hon drwy gydol y flwyddyn.

“Gall busnesau a thrigolion wneud eu bancio yma yn hytrach na gorfod teithio i’r banc agosaf. Bydd hynny o wir help i’r gymuned.

“Mae Swyddfa Bost Cil-y-coed yn cynnig llawer o wasanaethau, gan gynnwys adnewyddu treth cerbydau, anfon parseli, dychwelyd siopa o’r cartref a thalu biliau.  Mae Ewros a Doleri ar gael ar alw a gellir archebu arian cyfred arall ymlaen llaw. Yn ogystal, gall pobl gael eitemau o’n siop sydd â dewis eang o fwydydd a nwyddau.

Oriau agor y Swyddfa Bost a’r siop newydd yw dydd Llun i ddydd Sadwrn: 8am – 7pm; Dydd Sul: 9am – 5pm.  Bydd hyn yn darparu 74 awr o wasanaeth yr wythnos er hwylustod cwsmeriaid.  Mae modd parcio am ddim ar un ochr o’r ffordd sy’n arwain at Swyddfa Bost Cil-y-coed a gellir parcio am ddim am 90 munud mewn maes parcio gerllaw.

Dywedodd Santosh Samudrala, Rheolwr Newid Ardal Rhwydwaith Swyddfa’r Post: “Gwyddom pa mor bwysig yw Swyddfa Bost i gymuned. Rydym yn falch iawn o fod wedi adfer Swyddfa Bost llawn-amser i ganol tref Cil-y-coed. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Postfeistr newydd, Bobby Nakum, am ei fuddsoddiad mawr yn ei fusnes newydd ac am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Fynwy a Chymdeithas Dai Sir Fynwy, a helpodd i wireddu’r Swyddfa Bost newydd hon yng Nghil-y-coed. Mae’r oriau agor yn ei gwneud hi’n gyfleus iawn.”