Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) a Chymdeithas Tai Sir Fynwy (CTSF) yn ymuno i frwydro yn erbyn tlodi plant gyda phrosiect hyfforddi cydweithredol arloesol.

Gan weithio ochr yn ochr â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Chyngor ar Bopeth, nod y Cynllun Hyderus yn Delio gyda Thlodi Plant a Chostau Byw yw gwella cymorth cymunedol i deuluoedd. Bydd y prosiect yn ymrymuso busnesau gyda’r sgiliau i adnabod dangosyddion cynnil o galedi ariannol ac yn arwain unigolion at gymorth ar unwaith.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar y berthynas sydd gan fusnesau eisoes â thrigolion lleol, gan gynnig ffordd ymarferol a hygyrch o ddarparu cymorth.

Bydd y cynllun yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi wyneb-yn-wyneb ac e-ddysgu cynhwysfawr sydd wedi’u teilwra i gynorthwyo busnesau economi sylfaenol a sefydliadau trydydd sector i adnabod arwyddion o dlodi plant a’n llywio teuluoedd tuag at wasanaethau cymorth lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau ar draws Sir Fynwy. Mae’r gwaith y maent eisoes yn ei wneud yn y gymuned yn anweledig gan y rhan fwyaf, a bydd y prosiect hwn yn caniatáu i Gymdeithas Tai Sir Fynwy a ninnau gefnogi’r gwaith a helpu sefydliadau i ennill sgiliau newydd a fydd o fudd i’n cymunedau.”

Mae’r bartneriaeth wedi sicrhau £25,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfres o weithdai sy’n targedu gweithwyr sy’n wynebu’r cyhoedd fel trinwyr gwallt, siopwyr a meithrinfeydd.

Gydag un o bob saith o blant yn Sir Fynwy yn byw mewn tlodi, mae’r fenter yn ceisio lleddfu’r pryder cynyddol i deuluoedd na allant fforddio anghenion sylfaenol fel gwres a bwyd, yn enwedig wrth i’r gaeaf agosáu.

Eglurodd Rachel Knight, Rheolwr Ymgysylltu a Phartneriaeth CTSF: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag ymrymuso sefydliadau lleol sy’n rhyngweithio â theuluoedd bob dydd—fel siopau a meithrinfeydd—i gydnabod pan fydd angen cymorth ar rywun o bosibl ac i gynnig cymorth mewn ffordd nad yw’n stigmateiddio.”

“Ein nod yw creu ymagwedd gymunedol gyfan at drechu tlodi, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at wasanaethau cyn i’w sefyllfaoedd ddod yn argyfyngus.”

“Mae’n ddull syml. Rydym yn annog pobl i ymddiried yn eu greddf a manteisio ar y perthnasoedd y maent yn eu meithrin gyda’u cleientiaid a’u cwsmeriaid.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyderus yn Delio gyda Thlodi Plant a Chostau Byw neu i ddysgu sut y gall eich sefydliad gymryd rhan, cysylltwch â: fredweston@monmouthshire.gov.uk  neu Rachel.Knight@monmouthshirehousing.co.uk