Ymwelodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, ag Ysgol Cil-y-coed ar ddydd Mercher, 25ain Medi, i fynychu’r Rhwydwaith Ôl-16 mewn partneriaeth ag E-sgol.
Roedd ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet yn arddangos y rhaglen ddysgu arloesol a roddwyd ar waith ledled y Sir drwy’r prosiect E-sgol.
Mae’r prosiect E-sgol, sy’n cael ei chynnal yn Ysgolion Uwchradd Sir Fynwy, yn galluogi dysgwyr i gael mynediad i ystod ehangach o gyrsiau drwy ddysgu ar-lein. Wedi’i lansio i ddechrau bedair blynedd yn ôl yn y Canolbarth, mae E-sgol wedi ehangu i gynnwys ysgolion ledled Cymru.
Mae’r llwyfan dysgu ar-lein yn hwyluso cydweithio ymhlith dysgwyr o amrywiol Ysgolion Uwchradd Sir Fynwy, gan eu galluogi i ymgysylltu a dysgu gydag athrawon o sefydliadau addysgol gwahanol.
Yn ystod yr ymweliad, cymerodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, ran mewn gwers Sbaeneg gyda dysgwyr o Ysgol Cil-y-coed, o dan arweiniad athrawes o Ysgol Gyfun Trefynwy. Manteisiodd ar y cyfle i ryngweithio â’r dysgwyr a chael cipolwg ar eu profiadau dysgu rhithwir.
Roedd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, wedi ymuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar yr ymweliad gan nodi:
“Roedd yn fraint croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Ysgol Cil-y-coed ac arddangos y gwaith anhygoel y mae’r ysgol yn ei wneud i ddarparu cyrsiau i’r dysgwyr.
“Mae E-sgol yn rhoi cyfle i ni ganiatáu i’n dysgwyr gymryd rhan mewn cyrsiau nad ydynt efallai ar gael iddynt yn eu hysgol. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, gallwn nawr roi mynediad iddynt at gyfleoedd dysgu a rhwydweithio gyda dysgwyr o rannau eraill o’r Sir a thu hwnt.”
Diolch i grantiau drwy Lywodraeth Cymru ac E-sgol, mae Cyngor Sir Fynwy wedi buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf, gan gynnwys gliniaduron o’r radd flaenaf a byrddau gwyn rhyngweithiol, gan feithrin amgylchedd dysgu gwirioneddol gwych a chydweithredol i athrawon a myfyrwyr.rds, fostering a truly immersive and collaborative learning environment for teachers and students.
I ddarganfod mwy am Addysg yn Sir Fynwy, ewch ihttps://www.monmouthshire.gov.uk/education-2/. Am fwy o wybodaeth am E-sgol, ewch i www.e-sgol.cymru