Skip to Main Content

Mae tynnu arwyddion atgoffa 20mya ar draws y sir yn rhan o gynllun cyfredol i sicrhau fod yr holl arwyddion terfyn cyflymder yn cydymffurfio’n llwyr gyda’r ddeddfwriaeth gyfredol.

Gan fod y rhain yn ffyrdd gyda chyfyngiad, mae’r terfyn cyflymder yn yr ardaloedd hyn yn awr yn 20mya yn ddiofyn. Dangosir hyn gan bresenoldeb system goleuadau stryd sy’n cydymffurfio. Felly, ni chaniateir arwyddion atgoffa mwyach.

Ystyrir bod system goleuadau stryd yn cydymffurfio os yw colofnau goleuadau stryd wedi eu gosod ddim mwy na 2000 llath (183 metr) ar wahân. Mewn ardaloedd lle mae terfyn cyflymder o 20mya ond nad oes system goleuadau stryd sy’n cydymffurfio, bydd arwyddion atgoffa 20mya yn parhau yn eu lle.