Skip to Main Content
Dr Morwenna Wagstaff Pennaeth Cynhwysiant Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Martyn Groucutt Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, Catherine Fookes AS dros Sir Fynwy, Peter Fox AS dros Trefynwy, Emily Niner Pennaeth Partneriaethau Strategol a Prosiectau yn AET, Dr. Sarah Broadhurst AET Prif Swyddog Gweithredol

Ar ddydd Iau, 26ain Medi 2024, cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy lansiad Rhaglen Awtistiaeth mewn Ysgolion a Lleoliadau gyntaf Cymru.

Prif nod y rhaglen newydd hon yw gwella addysg i blant a phobl ifanc awtistig yn Sir Fynwy, gan gyfrannu at ddatblygu system addysg sydd yn wirioneddol gynhwysol yn y Sir a thu hwnt.

Bydd y fenter arloesol hon yn sicrhau bod pob dysgwr awtistig yn gallu cael mynediad at addysg sy’n diwallu eu hanghenion, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu, elwa ohono a’i fwynhau.

Gweledigaeth y rhaglen yw darparu addysg gadarnhaol a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc awtistig yn Sir Fynwy sy’n cefnogi eu hanghenion. Yn ogystal, ei nod yw creu profiad cadarnhaol a chydweithredol i rieni a gofalwyr pobl ifanc awtistig, gan gefnogi a gwella eu lles.

Wrth ddatblygu’r rhaglen arloesol hon, cydweithiodd Gwasanaeth Cynhwysiant Cyngor Sir Fynwy gyda’r Ymddiriedolaeth Addysgol Awtistiaeth, ymarferwyr addysgol, rhieni, gofalwyr a swyddogion o bob rhan o’r Cyngor.  

Yn fwy pwysig na dim, chwaraeodd paneli o bobl ifanc awtistig o ysgolion uwchradd Sir Fynwy rôl hollbwysig wrth sicrhau bod eu profiad bywyd a’u harbenigedd wrth galon y rhaglen, gan wneud hyn yn ymdrech wirioneddol gynhwysol a chydweithredol.

Mae lansiad y rhaglen hon yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhirwedd addysgol Sir Fynwy a Chymru, gyda’r potensial i drawsnewid y ffordd y caiff addysg ei darparu a’i phrofi gan blant a phobl ifanc awtistig.

Wrth lansio’r rhaglen ddydd Iau, dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Martyn Groucutt: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansiad Rhaglen Awtistiaeth mewn Ysgolion a Lleoliadau gyntaf Cymru. 

Bydd ein rhaglen newydd yn Sir Fynwy yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad i addysg gynhwysol sy’n cefnogi eu hanghenion ac yn eu galluogi i lwyddo.

“Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio i wella addysg i bob dysgwr, a bydd y gwaith y mae ein tîm yma yng Nghyngor Sir Fynwy wedi’i wneud yn gosod safonau newydd ledled Cymru.”

I ddysgu mwy am y rhaglen, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/awtistiaeth-mewn-ysgolion-a-lleoliadau-eraill/