Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am eich barn ar ei gynlluniau Cynllun Teithio Llesol ar gyfer Woodstock Way, Cil-y-coed.

Fel rhan o ddatblygu’r rhwydwaith Teithio Llesol ehangach ar gyfer Cil-y-coed ac ardal Glannau Hafren, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig newidiadau i ddyluniad a rheoli traffig Woodstock Way i wella cysylltiadau teithio llesol i ac o Ysgol Cil-y-coed, Canolfan Hamdden Cil-y-coed a chyrchfannau lleol eraill. Mae ffocws strategol Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi pobl i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau byr, bob dydd. Bydd dylunio amgylcheddau cymunedol sy’n gwneud teithio llesol yn gyfleus, yn ddiogel ac yn ddeniadol yn darparu dewis arall cost-effeithiol, iach ac ymarferol i yrru, gan hefyd wella effeithlonrwydd y system ffyrdd i’r rhai sydd angen gyrru.

Mae’r cyngor yn gofyn am eich barn ar gam cyntaf Cynllun Teithio Llesol Woodstock Way, Cil-y-coed, a fydd yn uwchraddio llwybrau teithio llesol a chroesfannau ar hyd Woodstock Way i fynd i’r afael â materion diogelwch, ansawdd llwybrau a thagfeydd.

Datblygwyd y cynllun ar hyd Woodstock Way mewn ymateb i faterion ac anghenion lleol a nodwyd gan y cyngor a sefydliadau lleol eraill. Mae’r anghenion hyn yn cynnwys llwybrau mwy diogel a mannau croesi ar gyfer cerdded ac olwyna.

Mae cynigion y cynllun yn cynnwys:

· Ailgynllunio cynllun ffordd Woodstock Way i gynnwys llwybr teithio llesol, defnydd a rennir, 3 metr o led.

· Ail-leoli arosfannau bysiau Meddygfa Gray Hill tuag at y llwybr cerddwyr i ganol y dref, i ffwrdd o gyffordd Mill Lane.

· Gosod ac uwchraddio cyfleusterau croesi, palmant cyffyrddol ac arwyddion.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae darparu llwybrau cerdded ac olwyna mwy diogel i breswylwyr yn ein trefi ac ar draws y sir yn hanfodol i wneud Teithio Llesol y dewis cyntaf ar gyfer teithiau lleol. Os ydych yn teithio yng Nghil-y-coed, cwblhewch yr arolwg a rhannwch eich barn ar gam cyntaf Cynllun Teithio Llesol Cil-y-coed.”

I gael gwybod mwy am Gynllun Teithio Llesol Woodstock Way, Cil-y-coed ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/woodstockway/

Bydd yr arolwg hwn yn cau ar: 35 Medi 2024

Bydd sesiwn galw heibio hefyd yn Hyb Cil-y-coed ddydd Mawrth, 10 Medi rhwng 11am a 5pm. Mae Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau o dair milltir neu lai. Mae hyn yn golygu gwneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol trwy wella seilwaith cerdded ac olwyna er mwyn cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol o fewn cymunedau.

Tags: , ,