Skip to Main Content

Mae disgyblion yn Sir Fynwy yn ymuno â miloedd o bobl ledled Prydain i ddathlu 30 mlynedd o Nod Masnach Deg, wrth iddynt gymryd rhan ym Mhythefnos Masnach Deg rhwng 9fed a 22ain Medi 2024.

Thema Pythefnos Masnach Deg eleni yw Byddwch y Newid. Dewiswch Fasnach Deg, a’i nod yw pwysleisio sut mae effaith gynyddol ein dewisiadau siopa yn caniatáu i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol tramor i greu dyfodol gwell. Drwy brynu nwyddau Masnach Deg gallwn “fod y newid” a helpu i gyfrannu at well yfory i filiynau o ffermwyr.

Bydd Jenipher Sambazi, tyfwr coffi Masnach Deg o Uganda, yn teithio i Gymru ar gyfer Pythefnos Masnach Deg ac yn ymweld â thair ysgol gynradd yn Sir Fynwy – Overmonnow, Osbaston a Rogiet – i siarad am ei phrofiad fel ffermwr Masnach Deg a’r gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud. Mae ei chwmni cydweithredol tyfu coffi yn Uganda wedi bod yn dioddef o dirlithriadau a llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd.

Mae Coffi Jenipher ar werth yng Nghymru ac mae’n un ffordd y gall pobl wneud gwahaniaeth.

Mae premiwm Masnach Deg yn golygu bod cymunedau Mt Elgon yn datblygu plannu coed, dulliau ffermio cynaliadwy a rhaglenni addysg ar y cyd, i helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a dod yn fwy gwydn i’r tywydd eithafol y maent yn ei wynebu’n gynyddol.

Mae pedwar grŵp Tref Masnach Deg Sir Fynwy yn y Fenni, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga hefyd yn trefnu llu o ddigwyddiadau ledled y wlad yn ystod Pythefnos Masnach Deg.

Bydd pob digwyddiad yn cyfleu’r neges bod dewis Masnach Deg, beth bynnag fo’ch cyllideb a lle bynnag y byddwch yn siopa, yn golygu buddsoddiad yn nyfodol ffermwyr, gan eu helpu i wella eu cymunedau, ansawdd eu bywyd ac i ofalu am yr amgylchedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fywydau pobl ar draws y byd.

“Mae ymweliad Jenipher yn helpu ein dysgwyr i ddeall sut mae Masnach Deg yn helpu ffermwyr a thyfwyr i ddatblygu ffyrdd o ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd ac addasu i amodau tywydd gwahanol.

“Mae Sir Fynwy yn falch o fod yn sir Masnach Deg ac o fod yn ymuno â’r dathliadau 30 mlynedd hyn. Drwy feddwl yn ofalus am effaith yr hyn rydyn ni’n ei roi yn ein basgedi siopa, gallwn ni “fod y newid” a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.” I ddarganfod mwy am Jenipher’s Coffi, ewch i https://jenipherscoffi.wales/

Tags: ,