Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal arolwg ar gyfer trigolion ar fywyd bob dydd yn Sir Fynwy.

Mae’r Cyngor eisiau clywed gennych am fyw yn Sir Fynwy, eich profiad o’ch ardal leol, eich barn ar wasanaethau’r Cyngor, a sut y gallwn wella pethau i wneud Sir Fynwy yn lle gwell fyth i fyw ynddo.

Bydd yn bosib i drigolion gwblhau’r arolwg rhwng 13eg Medi a’r 31ain Hydref. Mae’n gofyn cwestiynau am ansawdd yr amgylchedd lleol yn ogystal â boddhad gyda gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Mae’r arolwg a gynhelir gan Data Cymru yn rhan o’u Harolwg Preswylwyr Cenedlaethol, a gynlluniwyd i gefnogi Cynghorau lleol i gynyddu eu dealltwriaeth o berfformiad a chanfyddiad.

I gymryd rhan, dilynwch y ddolen hon: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/arolwg-preswylwyr-sir-fynwy/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae Sir Fynwy yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Fodd bynnag, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd y gallwn fireinio a gwella ein gwasanaethau ac rydym yn benderfynol o weithio ochr yn ochr â chymunedau a busnesau i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. Rhan hanfodol o hynny yw gwrando ar yr hyn sydd gan drigolion i’w ddweud am yr ardal a’r gwasanaethau y mae eu Cyngor yn eu darparu. Bydd yr arolwg hwn yn rhoi darlun mwy cyflawn i ni o sut mae pobl yn teimlo yn y Sir. Bydd eich adborth gwerthfawr yn ein galluogi i adolygu ein gwasanaethau a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol er budd ein holl drigolion.

Edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau a diolch o flaen llaw i bawb a fydd yn cymryd rhan.”

Tags: , ,