Mae Cyngor Sir Fynwy wedi’i gynnwys yn astudiaeth annibynnol fwyaf y DU o gysylltedd dyfeisiadau symudol yn y byd go iawn.
Mae Streetwave wedi’u penodi i gynnal astudiaeth o gysylltedd ar y stryd a bydd yn gosod offer mewn wagenni gwastraff a gomisiynir gan y cyngor er mwyn casglu’r wybodaeth fwyaf cynhwysfawr posibl.
Comisiynwyd yr arolwg gan The River Severn Partnership Advanced Wireless Innovation Region (RSPAWIR).
Mae’r RSPAWIR wedi derbyn £3.75m o gyllid gan y Llywodraeth i gefnogi twf arloesedd a thechnoleg diwifr yn rhai o’i sectorau economaidd allweddol.
Bydd yr RSPAWIR yn canolbwyntio ar gyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau diwifr datblygedig ar draws tri sector sydd â gwreiddiau amlwg yn nalgylch Afon Hafren:
· Rheoli dŵr
· Amaeth-dechnoleg
· Sector cyhoeddus
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae hon yn fenter ardderchog gan yr RSPAWIR a bydd yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i bobl ar draws y rhanbarth.
“Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i hysbysu busnesau, awdurdodau lleol ac unigolion pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at y dechnoleg ddiweddaraf a’r cysylltiadau cryfaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn gwybod bod ardaloedd yn nalgylch Afon Hafren sy’n cael eu heffeithio gan gysylltedd gwael ac yn y dyfodol, byddwn yn gallu cefnogi’r ardaloedd hynny.
“Bydd y wybodaeth hefyd yn fodd o ddarparu tystiolaeth o angen y gymuned wrth gynllunio ceisiadau am safleoedd mastiau newydd.”
Mae’r arolwg hefyd yn cael ei gyflwyno ar draws gweddill dalgylch Afon Hafren.
Os oes gan dirfeddianwyr o bob cwr o’r sir ddiddordeb mewn deall maint y signal ar gyfer dyfeisiadau symudol sydd oddi ar y stryd, mae offer arolwg hefyd ar gael y gellir ei fenthyg ar gais, ac wrth i’r arolwg gael ei gyflwyno, bydd y cyhoedd yn gallu gweld darlun manwl ar y signal yn eu hardaloedd.
Dywedodd Mark Barrow, cadeirydd Partneriaeth Afon Hafren: “Bydd yr RSPAWIR yn ymestyn ar draws dalgylch Afon Hafren ac yn darparu canlyniadau ar gyfer Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw, Sir Fynwy, Swydd Stafford, Swydd Warwick a Swydd Gaerwrangon unwaith y bydd wedi’i gwblhau.
“Bydd y data yn hanfodol ar gyfer datblygu a gwella cysylltedd.”
Tags: Monmouthshire, news