Skip to Main Content

Mae gan aelodau Canolfan Hamdden MonLife fynediad i ofod awyr agored pwrpasol newydd sbon ar gyfer gwneud ymarfer corff a gweithgareddau corfforol.

Mae’r agoriad yn cyd-fynd â dathliad Cyngor Sir Fynwy o Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol. Mae hon yn ymgyrch flynyddol gan ukactive sy’n amlygu’r rôl y mae gweithgaredd corfforol yn ei chwarae ar draws y DU, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd i’n cynorthwyo i fyw bywydau iachach.

Bydd y gampfa awyr agored newydd yn cynnwys offer o’r radd flaenaf gan Indigo Fitness, megis ffrâm ffitrwydd swyddogaethol, trac sled 12 metr o hyd, rigiau wedi’u gosod ar waliau a phwysau rhydd.

I ddathlu lansiad y gampfa newydd, bydd cystadleuaeth yn cael ei chynnal i hyrwyddo gweithgareddau corfforol awyr agored a hyfforddiant cryfder. Gall unigolion neu fel rhan o grŵp gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd ein staff cymwys wrth law i’ch cefnogi a’ch cofrestru ar gyfer yr her ddiweddaraf fel rhan o’n gystadleuaeth drwy gydol y flwyddyn.

Bydd y gampfa awyr agored bwrpasol yn berffaith i aelodau wneud ymarfer corff yn annibynnol neu fel grŵp. Dangoswyd bod nifer o fanteision i wneud ymarfer corff mewn grŵp, gan gynnwys profiadau hyfforddi gwell, cymorth gan gymheiriaid, atebolrwydd, ac ymdeimlad o gymuned.

Mae Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU yn argymell bod oedolion yn gwneud o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol, 75 munud o weithgarwch egnïol neu gymysgedd o’r ddau bob wythnos. Yn ogystal, dylid ymgymryd â gweithgareddau cryfhau ar ddau o’r diwrnodau hynny.

Ariennir y fenter hon gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I ddarganfod mwy am gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Fynwy, ewch i:

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) – Monmouthshire

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r ardal ymarfer corff newydd yng Nghas-gwent yn ychwanegiad gwych at y ganolfan hamdden a gynigir. Rydym yn parhau i edrych ar yr hyn y gallwn ei gynnig i’n haelodau a’r gymuned leol, ac mae’r cyfleusterau arloesol newydd hyn yn darparu ffordd ychwanegol o gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ac rwy’n gwybod y bydd y cyfleusterau hyn yn boblogaidd gyda’r aelodau ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu defnyddio’n helaeth!”

Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles (right), with Council Leader Cllr Mary Ann Brocklesby, Cllr Jackie Strong, Cllr Peter Strong and Cllr Christopher Edwards

Yn ogystal â’r gampfa awyr agored newydd, mae Canolfan Hamdden Cas-gwent yn cynnwys pwll nofio 20m, sawna/ystafell stêm (sydd ar gau dydd Mercher a dydd Iau 1pm-3pm), campfa ffitrwydd, sawna ychwanegol ar y llawr gwaelod isaf (sydd ar agor 10am – 6pm yn unig), neuadd chwaraeon bwrpasol, ardal chwaraeon aml-ddefnydd awyr agored, cae 3G ac ‘Astroturf’ maint llawn gyda chaeau awyr agored gwahanol a rhwydi criced.

I holi am ddod yn aelod, ewch i wefan MonLife: https://www.monlife.co.uk/cy/monactive/chepstow-leisure-centre/

I ddarganfod mwy am gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Fynwy, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) – Monmouthshire