Skip to Main Content

Mae rhaglen Hydref 2024 Theatr y Borough yn llawn dop o sioeau, cyngherddau a digwyddiadau i weddu pob chwaeth.

Mae digonedd y tymor hwn ar gyfer y rhai sy’n hoff o ddrama gyda Black Rat Productions yn dychwelyd i berfformio The Three Musketeers, sioe un-dyn Danny Mellor sef Undermined a fersiwn un-dyn Guy Masterson, a enillodd wobr Olivier, o A Christmas Carol.

Ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd bydd M6 Theatr Company yn dod â A Tiger’s Tale gan y dramodydd gwobrwyol Mike Kenny.

Mae gwledd yn disgwyl rhai sy’n hoff o gerddoriaeth glasurol, wrth i Noriko Ogawa – Y Piano Rhamantus berfformio rhaglen o Beethoven, Debussy a Chopin.

Ar ben hyn, mae Pedwarawd Fibonacci – Vienna and the Bohemia yn cyflwyno rhaglen yn cynnwys Beethoven a Schubert.

Mae digwyddiadau cerddorol eraill yn cynnwys bandiau teyrnged tebyg i The Elton John Show, What Now My Love? Teyrnged i Herb Alpert & The Tijuana Brass, Back to Bacharach The History of Rock, From Gold to Rio, Buddy Holly & The Cricketers a mwy.

Bydd siop lyfrau annibynnol Bookish yn cyd-noddi cyfres o sgyrsiau am lyfrau gan yr awdur llyfrau trosedd Peter James, Tim Hayward (a gaiff ei gyfweld gan Jay Rayner), a bydd Tom Parker-Bowles yn siarad gyda Matt Tabbut am ei lyfr Cooking and the Crown.

Mae grwpiau cymunedol lleol yn cwblhau’r tymor gyda sioeau tebyg i The Wizard of Oz, Carousel a mwy.

 Bydd cymuned theatr amatur y Fenni hefyd yn dychwelyd i’r Borough gyda’i Croeso i’r Nadolig heb fod mor draddodiadol.

I gael rhestr lawn o beth sydd ymlaen yn Theatr y Borough yr hydref hwn, neu i ganfod tocynnau a mwy o wybodaeth, ewch i boroughtheatreabergavenny.co.uk neu ffonio’r swyddfa docynnau ar 01873 850805.

Tags: , ,