Skip to Main Content

Heddiw, ar 15fed Awst 2024, mae myfyrwyr Sir Fynwy wedi casglu eu canlyniadau Lefel A, Lefel AS a BTEC. Mae hwn yn ddiwrnod allweddol i ddysgwyr wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.

Ar draws pedair ysgol y sir, Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Brenin Harri’r VIII, ac Ysgol Gyfun Trefynwy, mae staff wedi cyfarch eu myfyrwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad eu blynyddoedd o waith caled.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dymuno llongyfarch yr holl ddysgwyr a diolch i holl staff ein hysgolion yn ogystal â’r teuluoedd sydd wedi cefnogi dysgwyr ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg:
“Heddiw, rydyn ni’n dathlu cyflawniad ein holl ddysgwyr. Dyma, i lawer, fydd diwedd eu haddysg yn eu hysgolion, a dymunaf y gorau i chi ar gyfer y camau nesaf. Bydd ein dysgwyr a dderbyniodd eu lefel AS heddiw yn cael synnwyr o gynnydd. Dymunaf y gorau i chi ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym hefyd yn dathlu a’n diolch am ymroddiad ein holl athrawon ar draws y Sir. Mae eich gwaith caled wedi galluogi ein myfyrwyr i gyflawni, gan eu gosod yn y camau nesaf yn eu bywydau. Rhaid diolch yn olaf, wrth gwrs, i deuluoedd y dysgwyr. Mae eich cefnogaeth wedi galluogi’r dysgwyr i gyflawni drwy gydol y flwyddyn.”

Tags: , , ,