Mae calendr garddio wedi’i ddadorchuddio’n ddiweddar yn Sioe Frenhinol Cymru a bydd yn cael ei fabwysiadu’n fuan gan ysgolion ledled Sir Fynwy.
Lansiwyd y Calendr Tyfu Ysgol gan Adam Jones a Marianne Elliott, Cydlynydd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy.
Mynychodd plant o Ysgol Gynradd Cross Ash y lansiad ym Mhentref Garddwriaeth y sioe a siarad am sut mae eu hysgol yn integreiddio sgiliau bwyd – o dyfu i goginio – i’r diwrnod dysgu.
Mae’r calendr yn adnodd gydol y flwyddyn sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru ac wedi’i deilwra i’r flwyddyn academaidd.
Y bwriad yw helpu athrawon i ddefnyddio tyfu bwyd fel cyfrwng dysgu, trwy ddarparu canllawiau hawdd mynd atynt bob mis ar dasgau i’w gwneud a hadau i’w hau, dolenni i adnoddau digidol ychwanegol, ac awgrymiadau ar sut i gyfoethogi’r cwricwlwm gyda chyfleoedd dysgu awyr agored.
Sefydlodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy y syniad o Galendr Garddio Ysgol ar ôl gweithio gydag Adam Jones (Adam Yn Yr Ardd) i ddarparu hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb i leoliadau cymunedol ac addysgol a oedd wedi derbyn grantiau bach ar gyfer sefydlu prosiectau tyfu bwyd.
Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech ehangach gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, sy’n cael ei chynnal a’i hwyluso gan Gyngor Sir Fynwy, i feithrin a dathlu mudiad bwyd da yn y Sir a chreu system fwyd leol ffyniannus a chynaliadwy y gall pawb ei mwynhau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Mary Ann Brocklesby: “Mae’r Calendr Tyfu Ysgol yn ffordd wych o annog pobl ifanc ledled Sir Fynwy i ymgysylltu â bwyta’n iach ac o ble y daw eu bwyd.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y calendr yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion ar draws ein Sir ac i weld pa fwyd sy’n cael ei gynhyrchu.”
Hoffai Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy ddiolch i:
· Adam Jones
· Platfform Un
· Ysgol Gynradd Cross Ash ac Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr
· Mrs Brady Edwards, Pennaeth Ysgol Gynradd Gilwern
· Y Partneriaethau Bwyd ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
· Llywodraeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, ewch i foodmonmouthshire.co.uk
Bydd copïau o’r calendr yn cael eu dosbarthu am ddim i bob ysgol gynradd yn Sir Fynwy yn gynnar yn nhymor yr Hydref. Yn ogystal, mae nifer cyfyngedig o galendrau ar gael i ysgolion ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin, a Cheredigion drwy’r Partneriaethau Bwyd yn y Siroedd hynny.
Mae modd argraffu mwy os oes digon o alw. E-bostiwch food@monmouthshire.gov.uk i fynegi eich diddordeb.
Tags: Monmouthshire, news, School