Skip to Main Content

Castell Cil-y-coed oedd y lleoliad eleni ar gyfer y diwrnod hwyl i’r teulu blynyddol Fforwm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy.

Ar ddydd Mawrth, 30ain Gorffennaf, cynhaliodd y fforwm, gyda chefnogaeth tîm Gofalwyr Ifanc Cyngor Sir Fynwy, ddiwrnod o weithgareddau hamddenol a hwyliog i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd tra’n rhoi cyfle i siarad â swyddogion am y cymorth sydd ar gael.

Mae tîm Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy yno i gefnogi, darparu arweiniad, a darparu cyfleoedd gweithgaredd cymdeithasol i bob gofalwr ifanc ar draws y Sir i sicrhau nad oes unrhyw ofalwr ifanc yn teimlo’n unig. Mae’r tîm ymroddedig yn cefnogi gofalwyr ifanc o dan 18 oed gyda sgiliau bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau coginio, sgiliau smwddio a gwnïo, chwaraeon a sesiynau lles.

Gallwch ddysgu mwy am y gwasanaethau y mae’r tîm yn eu darparu yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gofal-cymdeithasol-yn-sir-fynwy/57727-2/57733-2/

Os ydych chi’n ofalwr ifanc neu’n rhiant neu warcheidwad person ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu, cysylltwch â’r tîm Gofalwyr Ifanc drwy e-bostio youngcarers@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae darparu cefnogaeth i’n gofalwyr ifanc yn ein cymuned yn hollbwysig. Maent yn darparu cefnogaeth wych i’w hanwyliaid bob dydd. Trefnir y Diwrnod Hwyl i’r Teulu gan y fforwm i ni ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud tra’n rhoi cyfle iddynt hwy a’u teuluoedd ymlacio a chymdeithasu ag eraill ar draws y Sir.”

Tags: , ,