Heddiw, 22ain Awst 2024, mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu cyflawniadau dysgwyr sydd wedi casglu canlyniadau eu cyrsiau TGAU a Lefel 2.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dymuno llongyfarch yr holl ddysgwyr, yn ogystal â’u teuluoedd sydd wedi eu cefnogi ar hyd y blynyddoedd.
Mae’r Cyngor hefyd yn dymuno diolch i holl staff ein hysgolion.
Ar draws y Sir, mae staff wedi cyfarch eu dysgwyr a’u teuluoedd wrth iddynt ddarganfod canlyniad eu blynyddoedd o waith caled.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Heddiw, rydym yn dathlu’r hyn y mae ein holl ddysgwyr wedi ei gyflawni. I rai, dyma fydd diwedd eu teithiau o fewn ein hysgolion wrth iddynt fynd i’r coleg, dilyn prentisiaeth, neu ddechrau eu bywydau gwaith. I eraill, mae’n garreg filltir gan y byddant yn dychwelyd ymhen ychydig wythnosau i barhau â’ch taith yn y chweched dosbarth. Hoffwn ddymuno’r gorau i chi yn eich camau nesaf i gyrraedd eich potensial, ond ni fyddai ein dysgwyr yn gallu cyflawni eu nodau heb gefnogaeth eu teuluoedd, a hoffem ni yma yn y Cyngor ddiolch i bob un ohonoch am y gefnogaeth yr ydych wedi’i rhoi iddynt ac yn mynd i barhau i’w darparu dros y blynyddoedd.”