Skip to Main Content

Bellach gall trigolion ac ymwelwyr ddweud eu dweud ar ba arddangosfeydd y maent am eu gweld yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol.

Mae Treftadaeth MonLife yn y broses o symud Amgueddfa Trefynwy i’r Neuadd Sirol ac yn chwilio am ba gasgliadau yr hoffai trigolion ac ymwelwyr eu gweld yn cael eu harddangos.

O’r 1af Awst 2024, bydd arolwg ar-lein ar gael i gasglu adborth ar themâu a gweithgareddau a fyddai’n denu ymwelwyr i’r amgueddfa. P’un ai ydych wedi ymweld o’r blaen neu heb ymweld erioed, rydym am greu amgueddfa sy’n llawn hanes a gweithgareddau i bawb.

Bydd y Neuadd Sirol yn amgueddfa fodern a deniadol yn seiliedig ar sgyrsiau cymunedol i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn gynrychioliadol i’n holl ymwelwyr. Bydd yn dod â straeon lleol yn fyw, yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau y mae pawb eisiau eu gweld a chymryd rhan ynddynt.

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/shire-hall-consultation/

Mae’r prosiect ailddatblygu wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Fynwy a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Yn dilyn yr adborth, bydd ein tîm prosiect yn gweithio gyda phenseiri a thimau dylunio amgueddfeydd i ddatblygu cynlluniau i greu amgueddfa newydd yn y Neuadd Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn gweithio i greu gofod modern i ymwelwyr ddysgu mwy am hanes lleol helaeth Trefynwy a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r amgueddfa hon i bawb, a’r arolwg yn gadael i chi ddweud wrthym beth yr ydych am ei weld.

Adeiladwyd y Neuadd Sirol ym 1724, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd 1, a chyn hynny roedd yn lleoliad y Brawdlysoedd a’r Sesiynau Chwarter ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n fwyaf enwog am brawf 1839/40 yr arweinydd Siartaidd John Frost ac eraill am uchel frad yn ystod Gwrthryfel Casnewydd. Beth am ymweld heddiw  i weld yr ystafelloedd llys a’r celloedd sydd wedi bod yn hollbwysig i hanes Trefynwy?

Mae Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy ar agor rhwng 11.00am a 4:00pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn (gall oriau agor amrywio adeg gwyliau). Mae mynediad AM DDIM.

Tags: , , ,