Mwynhaodd teuluoedd o bob rhan o Sir Fynwy ddiwrnod o hwyl a gemau gyda MonLife yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yr wythnos diwethaf fel rhan o’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.
Denodd y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 7fed Awst, tua 400 o oedolion a phlant.
Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dathlu hawl plant i chwarae wrth bwysleisio rôl hanfodol chwarae yn eu bywydau.

Roedd y digwyddiad yn agored i bawb ac roedd ganddo amserlen llawn gweithgareddau, gan gynnwys wal ddringo, celf a chrefft, adeiladu ffau, golff gwallgof a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yr wythnos hon.
“Mae chwarae yn rhan mor bwysig o ddatblygiad plant. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd berffaith o adael i blant archwilio amrywiaeth o weithgareddau yn rhydd a chael hwyl.”

Cafodd y digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn Sir Fynwy ei gynnal gan Chwarae MonLife, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal gan wahanol ardaloedd o MonLife yn ogystal â chydweithwyr o Gymdeithas Tai Sir Fynwy, clwb plant Clybiau Plant Cymru a thîm Partneriaethau Cymunedol a lles Cyngor Sir Fynwy.
I gael gwybod mwy am ein cynnig Chwarae yn MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/connect/play/
Tags: MonLife, Monmouthshire, news