Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynlluniau creu lleoedd gyda Chyngor Tref y Fenni, Chyngor Tref Magwyr gyda Gwndy a Chyngor Tref Trefynwy.

Bydd y cynlluniau, sy’n cael eu datblygu ar wahân ar gyfer pob canol tref, yn:

  • Dadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu canol y dre
  • Gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol y dref, i’w datblygu gyda rhanddeiliaid lleol
  • Darparu cynllun gweithredu wedi’i flaenoriaethu gyda’r prosiectau a’r gweithgareddau a fydd yn gwireddu’r weledigaeth, gan fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd a gwneud y gorau o’r cyfleoedd

Bydd cynnwys y gymuned wrth ddatblygu’r cynlluniau yn hanfodol i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion a dyheadau pobl leol. Bydd amrywiaeth o gyfleoedd i grwpiau lleol, sefydliadau, busnesau, a’r gymuned i gymryd rhan, gan gynnwys:

  • Sesiynau rhanddeiliaid lleol: Bydd y rhain yn cynnwys teithiau cerdded a gweithdai i ddeall heriau a chyfleoedd ac yn ddiweddarach i gael adborth ar gynigion sy’n dod i’r amlwg.
  • Ymgynghori cymunedol: Bydd hyn yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb, cyflwyniadau ar-lein, a holiaduron adborth.

Mae Cyngor Sir Fynwy a’r Cynghorau Tref wedi penodi Chris Jones Regeneration, a fydd yn arwain tîm sy’n cynnwys Owen Davies Regeneration a Roberts Limbrick Architects a Dylunwyr Trefol i gefnogi datblygiad y cynlluniau creu lleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros yr Economi Gynaliadwy: “Mae gweithio gyda’r Cynghorau Tref lleol yn rhoi cyfle i ni ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol cadarnhaol i’n trefi lleol yn Sir Fynwy. Creu mannau sy’n denu trigolion a ymwelwyr â chanol ein trefi, gan ehangu’r economi leol. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn am ddyfodol canol ein trefi.”

Dywedodd y Maer Y Fenni, Chris Holland: “Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb gael dweud eu dweud am ddyfodol canol ein trefi. Rwy’n annog yr holl drigolion a busnesau i gymryd rhan dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Maer Magwyr gyda Gwndy, y Cynghorydd Carole Hopkins: “Mae’r Cyngor Tref wrth ei bodd bod yr ymgynghorwyr wedi’u penodi a’n bod yn gallu dechrau ar y gwaith hwn o ddifrif. Bydd cynnwys pobl leol yn hanfodol i sicrhau bod unrhyw gynigion yn ganolog i adeiladu ar ein hysbryd cymunedol gwych, ein hymdeimlad o le a pherthyn.”

Dywedodd y Cadeirydd grŵp creu lleoedd Trefynwy, y Cynghorydd Roger Hoggins: “Nid oes amheuaeth bod canol trefi yn newid i adlewyrchu patrymau siopa a hamdden newydd ynghyd ag effaith yr hinsawdd economaidd ehangach. Bydd datblygu cynllun creu lleoedd yn helpu sefydliadau a rhanddeiliaid i gydlynu eu hymdrechion a’u blaenoriaethau i greu trefi sy’n medru ffynnu yn y dyfodol.”

Dywedodd Chris Jones, Cyfarwyddwr Adfywio Chris Jones “Rydym wrth ein bodd i gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â’r trefi hyn yn Sir Fynwy, gan eu helpu gyda’u profiadau canol tref yn y dyfodol wedi’u hadeiladu o amgylch eu hymdeimlad unigol o le a bywyd cymunedol. Drwy gydweithioag Owen Davies Consulting a Roberts Limbrick, rydym yn dod â thîm sydd â phrofiad o gyflawni cynlluniau gweithredu a buddsoddi yng nghanol trefi ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

Mae ‘creu lleoedd’ yn ddull cynhwysfawr o gynllunio a datblygu sy’n canolbwyntio ar greu mannau bywiog, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n sicrhau bod unrhyw newidiadau neu fuddsoddiadau a wneir yng nghanol y dref yn diwallu anghenion uniongyrchol ac yn cyfrannu at lesiant hirdymor y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am gynlluniau creu lleoedd ar gyfer awdurdodau lleol sy’n ceisio cyllid ar gyfer buddsoddiadau yng nghanol trefi. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu dull strategol a chydgysylltiedig sy’n cyfiawnhau cyllid ac sy’n trosoli adnoddau ychwanegol gan y sector preifat a’r trydydd sector.

I ddysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostiwch MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk

Tags: ,